RAAC: Canfod concrit peryglus mewn mwy o gartrefi 'yn debygol'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib iawn y bydd "mwy o enghreifftiau" o dai ble mae concrit RAAC allai fod o risg i bobl yn cael ei ganfod, yn ôl arbenigwr yn y diwydiant.
Dywedodd Owain Llywelyn, sy'n syrfëwr siartredig, ei bod hi'n debygol fod llawer o achosion "heb amlygu eu hunain eto", oherwydd arferion adeiladu'r gorffennol.
Daw hynny wedi i drigolion ar stad dai yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf gael cyngor i adael eu cartrefi, wedi i brofion ddangos bod "risg difrifol" o goncrit RAAC yn eu nenfwd.
Mewn datganiad pellach ddydd Mawrth, dywedodd cymdeithas dai Trivallis nad ydynt yn gwybod pa ddatblygwr wnaeth adeiladu'r cartrefi, gan fod hynny rhai blynyddoedd cyn iddynt ddod i'w perchnogaeth.
Ychwanegodd y gymdeithas ei bod yn "bosib" bod gan landlordiaid eraill adeiladau tebyg yn eu meddiant.
Mae RAAC eisoes wedi cael ei ddarganfod mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a nifer o ysgolion.
Mae 70% o goncrit RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete) yn swigod aer, ac mae 'na ofnau y gallai ddirywio wedi oddeutu 30 o flynyddoedd a chwympo'n ddirybudd.
Mae'r broblem yn Hirwaun yn effeithio ar 40 o dai sydd dan reolaeth cymdeithas dai Trivallis, yn ogystal â phedwar tŷ preifat.
Nos Lun fe ddywedodd Trivallis wrth eu tenantiaid y dylen nhw symud allan o'u tai cyn gynted â phosib, ac maen nhw'n parhau i weithio gyda'r trigolion i ddod o hyd i drefniadau addas.
Yn ôl Mr Llywelyn, mae'n benderfyniad "synhwyrol a chyfrifol" gan y gymdeithas dai, er mwyn i archwiliadau manylach o'r tai gael eu cynnal.
Ond fe ychwanegodd bod "record waradwyddus" ym Mhrydain pan mae'n dod at gynnal a chadw'r stoc dai, ac felly mae'n bosib nad trigolion Hirwaun fydd yr olaf i wynebu sefyllfa o fath.
"Mi oedd 'na ragdybiaeth mai problem a wnelo ag adeiladu masnachol fel theatrau, fel Neuadd Dewi Sant, ac ysbytai ac ysgolion [oedd RAAC]," meddai.
"Ond roedd y defnydd o RAAC yn gyffredinol drwy'r diwydiant, lle oedd 'na gyfle i adeiladu'n gyflymach a rhatach."
Ychwanegodd: "Mae wedi arwain at y storm berffaith yma lle, ydi, mae llawer o'n stoc adeiladau ni yn wynebu'r risg yna."
Gallai hynny olygu felly y bydd mwy o broblemau yn ymwneud â chartrefi pobl yn dod i'r amlwg yn fuan.
"Fflatiau'n benodol, ond nid just fflatiau, unedau megis y rhai sy'n Hirwaun - un llawr, dau lawr ar y mwyaf, efo to unai fflat neu pitch 10-15 gradd," meddai Mr Llywelyn.
"Dyna'r math o adeilad fyswn i'n disgwyl i gael problemau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023