Cadarnhau gwaharddiad Rhys ab Owen o'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Rhys ab Owen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021

Mae cyn-Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi ymddiheuro'n "ddiamod" am ei ymddygiad, wrth iddo gael ei wahardd o'r sefydliad am 42 diwrnod am gyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes.

Bu ASau yn pleidleisio ar ffawd Rhys ab Owen nos Fercher, wedi i Bwyllgor Safonau'r Senedd awgrymu'r gwaharddiad yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth y Senedd gytuno'n unfrydol i'w wahardd o'r sefydliad am chwe wythnos.

Mewn datganiad i'r Senedd cyn y bleidlais fe wnaeth Mr ab Owen ymddiheuro "yn ddiamod" am ei ymddygiad.

Dywedodd ei fod yn derbyn y gosb, ond fod ganddo bryderon am y broses, gan gwyno am yr amser y cymrodd hi, a diffyg tryloywder.

Dyma'r gosb fwyaf i unrhyw Aelod o'r Senedd ei hwynebu erioed.

Dywedodd adroddiad y pwyllgor nad oedd Mr ab Owen wedi dangos unrhyw edifeirwch am y digwyddiad ar 30 Mehefin 2021.

Mae Mr ab Owen wedi gwadu unrhyw "ymddygiad amhriodol" tuag at y ddwy fenyw, meddai'r pwyllgor.

'Eich gadael chi i lawr'

Mewn araith emosiynol, a wnaed trwy gyswllt fideo oherwydd salwch teuluol, dywedodd ei fod wedi "eich gadael chi i gyd i lawr".

"Ges i ormod i yfed y noson honno ac fe wnes i ymddwyn yn wael. Rwy'n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad, a chanlyniadau'r ymddygiad hynny."

Dywedodd Mr ab Owen fod "dros 20 mis wedi mynd heibio" er i'r cwyn gael ei wneud ar 1 Gorffennaf 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys ab Owen wedi gwadu unrhyw "ymddygiad amhriodol" tuag at y ddwy fenyw, meddai'r pwyllgor

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo y dylai un unigolyn - yn cyfeirio at y comisiynydd safonau Douglas Bain - fod yn gyfrifol am yr holl broses.

Dywedodd hefyd fod "dim ffordd o herio ac apelio yn erbyn y broses, oni bai am adolygiad barnwrol a allai gostio swm chwe ffigwr".

Fe ddechreuodd lefain, gan ychwanegu ei fod eisiau "diolch i fy ngwraig a fy nheulu am eu cariad a'u cefnogaeth".

Mae BBC Cymru ar ddeall fod llawer o amser y pwyllgor safonau wedi cael ei gymryd yn delio gyda materion cyfreithiol a godwyd gan Mr ab Owen.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Vikki Howells eu bod wedi "ystyried beirniadaeth yr aelod yn ofalus" cyn dod i'w penderfyniad.

Beth yw'r cefndir?

Yn ôl adroddiad y pwyllgor safonau, roedd Mr ab Owen ymhlith nifer o aelodau o'r Senedd a aeth i dafarn Wetherspoons ym Mae Caerdydd ar 30 Mehefin 2021, ac yno fe ymunon nhw â sawl aelod o staff Plaid Cymru.

Noda'r ddogfen bod Mr ab Owen wedi yfed "swm sylweddol o win", gydag awgrym gan rai ei fod yn fwy meddw na'r gweddill oedd yn bresennol.

Dywedodd y ddynes a wnaeth gŵyn i'r comisiynydd bod Mr ab Owen wedi rhegi arni ddwywaith mewn stryd ger y dafarn.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Mr ab Owen wedi ei chyffwrdd mewn modd amhriodol drwy roi ei fraich o gwmpas ei chanol a'i thynnu tuag ato.

Ychwanegodd y ddynes bod Mr ab Owen wedi gwasgu ei chlun "yn galed" mewn tacsi yn hwyrach yn y noson.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Plaid Cymru fod Rhys ab Owen wedi ei wahardd fel aelod o'r blaid

Mae dynes arall, sy'n cael ei chyfeirio ati yn yr adroddiad fel "tyst A", yn dweud bod Mr ab Owen wedi rhegi arni ar ôl iddi herio'r gwleidydd am ei ymddygiad.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod Mr ab Owen wedi cyffwrdd tyst A yn amhriodol yn y dafarn drwy afael yn ei chanol.

Mae'n nodi hefyd ei fod wedi gwneud sylwadau amhriodol iddi mewn tafarn arall yng nghanol y ddinas.

Nododd yr achwynydd fod Mr ab Owen wedi ymddiheuro ar sawl achlysur am ei ymddygiad.

'Annigonol ac yn aneffeithiol'

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021.

Fe gafodd ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd ym mis Tachwedd 2022 tra'n aros am gasgliad ymchwiliad y Comisiynydd Safonau.

Mae hyn yn golygu ei fod yn eistedd fel aelod annibynnol, ond roedd Mr ab Owen wedi parhau yn aelod o Blaid Cymru.

Ond wedi i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Plaid Cymru fod Mr ab Owen bellach wedi ei wahardd fel aelod o'r blaid wrth iddyn nhw gynnal "proses fewnol" ynghylch y mater.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn blaid diogel a chroesawgar

Daeth Pwyllgor Safonau'r Senedd i'r casgliad fod prosesau Plaid Cymru wedi bod yn "annigonol ac yn aneffeithiol".

Dywedodd arweinydd y blaid, Rhun ap Iorwerth yr wythnos ddiwethaf fod "disgwyliadau clir o ran ymddygiad gwleidyddion ac mae'r aelod ei hun wedi cyfaddef nad oedd ei ymddygiad o yn cyd-fynd â'r safonau hynny," meddai.

"Ry'n ni fel plaid wedi cymryd camau i'w wahardd fel aelod wrth i ni gynnal proses fewnol ynghylch y mater, ac wrth i'r Senedd baratoi am bleidlais ar gynnwys yr adroddiad.

"Mae'r adroddiad yn crybwyll y ffordd wnaethon ni fel plaid ymateb, a doedd yr ymateb hwnnw ddim fel y dylai wedi bod."

Ychwanegodd bod Plaid Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod y blaid yn un diogel a chroesawgar.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Lake y dylai'r Senedd gael system debyg i San Steffan sydd yn gallu gorfodi is-etholiad

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Ben Lake, wedi dweud y dylai Mr ab Owen fod wedi wynebu colli ei sedd am y digwyddiad, a'i bod hi ddim yn iawn nad yw'r gosb yn arwain at ddeiseb adalw fel yn San Steffan.

Mae cyn-AS Plaid Cymru Nerys Evans ac Ysgrifennydd Cymru David TC Davies wedi cefnogi'r farn honno.

Yn San Steffan os yw AS yn cael ei wahardd am 10 diwrnod neu fwy yna maen nhw'n wynebu deiseb adalw yn awtomatig, gan roi cyfle i bleidleiswyr yn yr etholaeth i gael gwared ar eu haelod.

Nid oes proses o'r fath yn bodoli yn y Senedd.

Y Senedd am 'gryfhau atebolrwydd'

Dros y penwythnos dywedodd llefarydd ar ran y Senedd eu bod yn "cymryd y materion hyn o ddifrif".

"Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n gweithio gyda'r Comisiynydd Safonau, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau atebolrwydd aelodau unigol.

"Mae hyn yn cwmpasu ystod o faterion gan gynnwys ad-alw aelodau."