Creu tystysgrifau i gydnabod pob babi sydd wedi'u colli
- Cyhoeddwyd
"'Dach chi'n dod adra o'r ysbyty hefo dim byd o gwbl, dim enw'r babi lawr yn nunlla."
Caiff ei amcangyfrif bod un o bob pedwar beichiogrwydd yn diweddu mewn colli babi neu erthyliad naturiol.
Ond yn ôl dwy fam o Fôn sydd wedi bod drwy'r profiad torcalonnus o golli babanod yn fuan yn eu beichiogrwydd, mae'r diffyg cydnabyddiaeth wedi bod yn anodd.
Yng Nghymru mae babi sy'n cael ei eni'n farw ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd yn cael ei ystyried fel genedigaeth farw, gyda'u marwolaethau'n cael eu cofnodi'n swyddogol.
Ond ar hyn o bryd does dim cydnabyddiaeth o'r fath i fabanod sy'n marw cyn 24 wythnos o feichiogrwydd, sy'n cael ei adnabod fel camesgoriad.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ystyried dilyn Lloegr drwy gynnig cydnabyddiaeth swyddogol i fabanod sy'n cael eu colli ar unrhyw gam o feichiogrwydd.
Ond wrth ddisgwyl i weld y newid hwnnw i'r broses ardystio mae'r ddwy wedi sefydlu elusen Pluen Wen, sydd eisoes wedi denu cefnogaeth bwrdd iechyd y gogledd i gynnig tystysgrifau enwi a bendithio i bob rhiant sy'n colli eu babanod.
'Cyn 24 wythnos does 'na ddim byd'
"Mi gollon ni fabi cyn 24 wythnos yn 2014 ac wedyn yn 2018 mi gollon ni fabi ar ôl 24 wythnos, oedd yn brofiad gwahanol iawn," meddai Emma Telford Owen, 38, o Gaerwen.
"Oeddwn i'n teimlo, ar ôl 24 wythnos, fod 'na fwy o gydnabyddiaeth o fodolaeth y babi."
"Mae gen i dystysgrif i roi cydnabyddiaeth, ond cyn 24 wythnos does 'na ddim byd.
"'Dach chi'n dod adra o'r ysbyty hefo dim byd o gwbl, o ran dim enw'r babi lawr yn nunlla a dwi'n teimlo bysa wedi bod o gysur mawr derbyn tystysgrif fel hyn."
Ond cyn neu ar ôl 24 wythnos, dywedodd fod y profiad yr un mor boenus i'r teulu sy'n galaru.
"Yr un math o deimladau, yr un emosiynau, ond bod rhywun yn teimlo cyn 24 wythnos fod nhw ddim y cyfri'r un fath, er eu bod nhw'n amlwg yn."
'Rhywfaint o gysur'
Bu Fiona Hughes, 46, o bentref Dulas drwy brofiad yr un mor boenus o ddwy golled cyn cyrraedd chwe mis o feichiogrwydd.
"Mae'r profiad ei hun yn un anodd yn ogystal â bod yn un emosiynol," meddai.
"Ac er nad ydi o'n newid y sefyllfa o gwbl mi fydda' derbyn tystysgrif a chael mynd adra hefo rhyw gofnod o fod wedi mynd drwy hyn, a chofnod o hynny i'w gadw am byth wedi bod yn rhywfaint o gysur."
O ran y diffyg cydnabyddiaeth i feichiogrwydd sy'n dod i derfyn cyn 24 wythnos, ychwanegodd: "Mae'n gwneud i rywun deimlo'ch bod chi ddim wedi bod drwy'r broses.
"Darn bach o gerdyn ydi o ond mae'n golygu gymaint jyst cael enw 'da chi wedi ei dewis ar gyfer eich baban chi... y gydnabyddiaeth yna.
"Dwi'n teimlo fod hynny'n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol."
'Ymhob ysbyty'r gogledd'
Mae'r ddwy'n dymuno gweld newid yn y drefn ac i Gymru ddilyn y broses sydd bellach ar waith yn Lloegr lle mae modd hawlio tystysgrif fel rhan o'r broses ardystio.
Yn dilyn derbyn cefnogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd, mae'r ddwy wedi sefydlu elusen yn darparu tystysgrifau eu hunain i deuluoedd sy'n mynd drwy brofiad tebyg.
Wrth gydnabod na fydd pob teulu'n dymuno derbyn tystysgrif, mae'r ddwy yn mynd drwy'r broses o gofrestru Pluen Wen fel elusen gofrestredig.
Bydd y tystysgrifau'n cael eu rhannu gan dri phrif ysbyty'r gogledd.
Ychwanegodd Fiona fod yr ymateb i'r syniad wedi bod yn gadarnhaol.
"Mae'r syniad wedi bod gena'i ers 'chydig o flynyddoedd, teimlo fod angen rhyw fath o gydnabyddiaeth i'r babanod sy'n cael eu colli," meddai.
"Ar ôl i hyn gael ei roi o flaen bwrdd Betsi Cadwaladr roeddan nhw eisiau cyflwyno'r rhain ymhob un ysbyty yng ngogledd Cymru.
"Oherwydd hynny roedden ni'n teimlo fod angen sefydlu Pluen Wen i roi'r tystysgrifau yma i rieni sy'n profi colled."
"Ar y cychwyn pan oeddan ni'n meddwl rhoi rhain i Ysbyty Gwynedd nifer bychan oeddan nhw angen, ond ar ôl gweld fod nhw am eu rhannu ar draws y gogledd i gyd maen nhw'n anelu am ddefnyddio 600 o dystysgrifau bob blwyddyn.
"Yn anffodus mae hyn yn nifer fawr o dystysgrifau, does neb eisiau bod yn y sefyllfa o orfod derbyn nhw ond gobeithio byddan nhw o gysur yn y dyfodol."
Bydd y tystysgrifau ar gael drwy law Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Ychwanegodd Emma fod sefydlu'r elusen wedi bod yn "brofiad emosiynol sydd wedi agor lot o greithiau ond hefyd wedi dod a lot o gysur i ni".
'Cefnogaeth briodol a thosturiol'
Mae Wynne Roberts yn gweithio fel caplan yn Ysbyty Gwynedd.
Wedi gweithio gyda Fiona ac Emma yn ystod y broses o ddylunio'r tystysgrifau, dywedodd y byddan nhw o fudd i lawer o deuluoedd ac yn addas ar gyfer teuluoedd o unrhyw neu ddim ffydd.
"Fel caplan dwi'n aml yn bendithio plant sydd heb gael byw, sy'n beth anffodus iawn i unrhyw deulu," meddai.
"Mi ddoth Fiona a Emma ata'i a gofyn os fyddai'r tystysgrifau yn rywbeth y basa ni'n gallu eu defnyddio, ac yn sicr mi fyddan ni.
"Mi weithion ni gyda'n gilydd i sicrhau fod nhw'n addas a dwi'n licio'r syniad o Pluen Wen."
"Mae hefyd yn bwysig iawn fod y tystysgrifau'n rai modern, addas ac yn ddwyieithog," ychwanegodd Wynne.
"Nid pawb sydd eisiau tystysgrif bendith, wrth gwrs, sy'n golygu bydd y rhai enwi yn cael eu gwerthfawrogi hefyd.
"'Dan ni'n ddiolchgar dros ben bod Fiona a Emma wedi dod i fyny hefo'r syniad."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod pob teulu sy'n dioddef colled beichiogrwydd mewn uned mamolaeth yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profiadol ac elusennau fel Sands.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda swyddogion yn Lloegr i edrych ar gyflwyno'r broses ardystio ar draws Cymru i roi cydnabyddiaeth ffurfiol pan fydd teuluoedd wedi colli babanod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020