George North 'yn esiampl i chwaraewyr rygbi'r gogledd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd George North mai ymddeol o rygbi rhyngwladol yw'r "peth iawn i fi a fy nheulu"

Daeth y cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd George North yn ymddeol o chwarae dros Gymru yn dilyn y gêm yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn, a hynny wedi 14 mlynedd o wisgo'r crys coch.

Aeth North i Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn wrth gwrs, ac yna chwarae dros glybiau Llangefni a Phwllheli.

Felly sut mae ei lwyddiant rhyngwladol wedi effeithio ar boblogrwydd rygbi yng ngogledd Cymru?

Yn ôl Dafydd Roberts, sy'n swyddog rygbi dros Undeb Rygbi Cymru yn y gogledd, mae gweld rhywun fel George North yn serennu wedi galluogi i blant ifanc y gogledd freuddwydio.

Yn siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru, dywedodd Dafydd: "I lot o chwaraewyr o gwmpas y clybiau yng ngogledd Cymru, George North ydi'r dyn mae nhw'n edrych fyny ato - ac isio yr un fath o brofiadau a llwyddiant mae o wedi ei gael yn chwarae dros Gymru, y Scarlets a'r Gweilch."

Disgrifiad o’r llun,

North yw'r unig Gymro i chwarae yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd ar bedair achlysur

"Cyn George, Robin McBryde oedd yr enw mawr o'r gogledd", medai Dafydd, "does 'na ddim llawer o'r gogledd sydd wedi gwneud argraff dros Gymru."

Mae Dafydd yn falch hefyd fod 'na gynnydd wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n chwarae rygbi yn y gogledd dros y blynyddoedd diweddar.

"Eleni 'dan ni wedi cael y nifer fwyaf o bobl yn cofrestru i chwarae'r gêm erioed, 'dan ni wedi torri'r record yna yn y gogledd eleni.

"Ond dim just o ran faint sy'n chwarae, mae'r safon wedi codi hefyd. Rydan ni fel rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru yn lot fwy cystadleuol rŵan yn erbyn y rhanbarthau Cymreig eraill, 'dan ni'n cystadlu 'efo nhw ar lefel dan-15, dan-16 a dan-18."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd gyda rhai o aelodau o garfan ifanc Rygbi Gogledd Cymru ar Barc yr Arfau

Fel un o hyfforddwr y tîm dan-18 ym Mhencampwriaeth Rhanbarthol Cymru y tymor hwn, mae Dafydd wedi ei blesio gyda safon ei dîm.

"Fe gawsom ni fuddugoliaeth yn erbyn Caerdydd yn y gêm gyntaf yn y gystadleuaeth - 'dan ni erioed wedi curo Caerdydd o'r blaen.

"Fe gollon ni funud olaf yn erbyn y Dreigiau a chwarae gemau cystadleuol yn erbyn y Scarlets a'r Gweilch."

'Talent cyffrous' ar y ffordd

O ganlyniad i'r perfformiadau addawol, fe gafodd sawl chwaraewr o'r rhanbarth eu henwi yng ngharfan dan-18 Cymru er mwyn cystadlu mewn gemau yn Yr Alban ac Iwerddon.

Roedd wyth o chwaraewyr wedi eu cynnwys ar gyfer y gemau, sef y nifer fwyaf o ogleddwyr yng ngharfan dan-18 Cymru erioed.

Mae Harri Ford, Patrick Nelson a Will Austin i gyd hefyd yn rhan o garfan dan-20 Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad eleni - y tri yn hanu o'r gogledd, sydd yn destun balchder i Dafydd Roberts.

Ffynhonnell y llun, Dafydd ROberts
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd gyda rhai o'r gogleddwyr ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru yn ddiweddar

"Mae'r rhifau'n cynyddu, rydym ni'n fwy cystadleuol, felly gobeithio y gallwn ni weld mwy o hogia o'r gogledd yn y dyfodol dim just un fel George North - tri neu bedwar yn dod drwyddo yn gyson gobeithio.

"[Mae 'na] lot o dalent cyffrous, er ei bod yn anodd dweud pan mae nhw yn 15 i 18 mlwydd oed. Roedd George North yn seren rygbi'r byd, dydy chwaraewyr fel George North ddim yn dod o gwmpas yn aml.

"Ond mae 'na lot o dalent fyny yn y gogledd, a dwi'n siŵr y byddwn ni'n gweld enwau bechgyn gogledd Cymru yn cynrychioli Cymru ar lefel dan-18, dan-20 a gobeithio'r tîm cyntaf, a cheisio creu argraff fel mae George wedi ei wneud dros y 10 mlynedd ddiwethaf."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Roberts

Hefyd o ddiddordeb: