Pum munud gyda Bardd y Mis: Sam Robinson

  • Cyhoeddwyd
Sam RobinsonFfynhonnell y llun, Sam Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Sam Robinson

Sam Robinson o Fachynlleth yw Bardd y Mis, Radio Cymru, fis Mawrth.

O Rydychen yn wreiddiol, mae Sam yn byw ym Machynlleth ers rhai blynyddoedd ac wedi dysgu Cymraeg. Bu'n gweithio fel bugail a waliwr sych, ac erbyn hyn ei waith yw gwneud seidr.

Mae'n barddoni yn y Gymraeg ers pedair blynedd.

Pam dysgu Cymraeg - a pham barddoni yn y Gymraeg?

Wel yn fama o'n i am fyw, ac o'n i eisiau bod gymaint yn rhan o fywyd y fro ag o'n i'n gallu, felly roedd dysgu Cymraeg yn amlwg yn syniad da doedd. A fyse barddoni yn y Saesneg ddim wedi neud fawr o synnwyr wedyn na.

Ydych chi'n barddoni o gwbl yn Saesneg? Beth ydi'r gwahaniaeth rhwng creu cerddi mewn ieithoedd gwahanol?

Mi o'n i, ond dydw i ddim bellach, a heb neud ers blynyddoedd. Dwi ddim yn siŵr o ran y gwahaniaeth deud y gwir.

Mae pob iaith yn gwahodd i ni feddwl a theimlo mewn ffurf wahanol yn dydy, tuedd y geiriau a'r gramadeg yn arwain y dychymyg ar ôl gwahanol sgwarnogod. Fedra i ddim disgrifio'r peth yn benodol chwaith.

Dwi'm yn cofio sut beth oedd barddoni yn y Saesneg rili. Mae'n anodd cofio dwi'n meddwl, oni bai bod rywun wedi cydio ynddi yn ddiweddar.

Bugail sy'n barddoni - fel dau o feirdd adnabyddus Cymru, Hedd Wyn ac Eifion Wyn. Ydi'ch gwaith a'ch cynefin yn ysbrydoli eich cerddi?

Wel mi o'n i'n fugail, ond wedi symud ymlaen yn ddiweddar. O'n i wrth fy modd yn gweithio ar y ffermydd, ond doedd gen i ddim fawr o obaith mynd ymhell ym myd amaeth dwi'n ofn. Gormod o freuddwydiwr â fy mhen yn y cymylau berig.

Ffynhonnell y llun, Sam Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Sam yn bugeilio - a breuddwydio - ym Mro Ddyfi

Ond ta waeth, cynefin a pherthynas rhwng pobl a thir yw'r prif beth dwi'n sgwennu amdano erbyn hyn. Dyna sy' 'di dwyn fy sylw. 'One Track Jack' ydw i braidd.

Pan oeddech chi'n hogyn ifanc, sut fyddech chi wedi dychmygu eich bywyd yn 2024?

Iesgob. Dewin o'n i am fod ers talwm. Felly dwi'm yn ame fyse Sam bêch y dewin yn weddol fodlon efo'i dynged fel gwneuthurwr seidr.

Hud a lledrith 'di hynny yn y bôn.

Ffynhonnell y llun, Sam Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Sam Robinson yn gwneud seidr

Ers pryd ydych chi'n chwarae'r bodhran a beth ydi'r apêl?

Dwi'n chwipio'r afr ers rhyw naw mlynedd. Be' 'di'r apêl? Esgus fod yn gerddor gan neud diawl o sŵn byca. Y grŵf, y grŵf 'di'r boi.

Petaech chi'n gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Ghandl o'r Qayahl Llaanas, bardd y genedl Haida, sef pobl brodorol ynysoedd Haida Gwaii yn British Columbia. Ganwyd yntau yn 1851.

Fe gollodd ei olwg yn sgil afiechyd a ddoth i'r ardal efo pobl gwyn. Dysgodd wrando'n astud wedyn. Un o feirdd olaf traddodiad llafar yr Haida oedd Ghandl.

Fyse'n anhygoel cael blas ar fod yn fardd mewn diwylliant llafar lle doedd n'a'm byd yn cael ei sgwennu lawr.

Mae'r bardd Robert Bringhurst wedi cyfieithu trawsgrifiad o waith Ghandl, cyhoeddwyd yn y gyfrol Nine Visits to the Mythworld, Ghandl of the Qayahl Llaanas.

Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

Disgrifiad o’r llun,

Gerallt Lloyd Owen

Etifeddiaeth, Gerallt. Y llinellau hyn yn arbennig...

A chawsom iaith, er na cheisiem hi,

oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes

a'i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?

Dwi'n gweithio ar gasgliad o gerddi 'amaeth-ecolegol' fel rhan o gwrs ymchwil MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fydda i'n dechrau potelu cynhaeaf 2023 diwedd y mis 'ma, wedyn ym mis Ebrill fydda i'n dechrau gwneud caws dafad efo Cwmni Caws Aberdyfi, felly bydd hynny'n antur newydd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig