Carmen Smith: Aelod ieuengaf Tŷ'r Arglwyddi yn 'barod i weiddi'

  • Cyhoeddwyd
Carmen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Carmen Smith yn cael ei chyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi fore Iau

Mae'r person ieuengaf ym Mhrydain i gael ei hurddo yn Arglwydd am oes yn San Steffan yn "barod i weiddi'n uchel" er mwyn sicrhau bod lleisiau ifanc yn cael eu clywed.

Mae Carmen Smith o Ynys Môn yn 28 oed a chafodd ei henwebu gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Cafodd ei chyflwyno yn ffurfiol i Dŷ'r Arglwyddi mewn seremoni fore Iau, ac mi fydd hi'n eistedd fel 'Y Farwnes Smith o Lanfaes'.

Er hynny mae hi wedi siarad yn agored am y ffaith ei bod hi am weld y sefydliad yn cael ei ddiddymu.

Mae'r Farwnes Smith wedi cydnabod bod delio a'r sylw cyhoeddus ers ei henwebiad wedi bod yn anoddach na'r disgwyl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carmen Smith wedi dweud ei bod am weld Ty'r Arglwyddi yn cael ei ddiddymu

Roedd rhai beirniaid wedi honni iddi gael y swydd ar y sail ei bod hi'n ddynes - gan fod prosesu mewnol Plaid Cymru yn sicrhau bod yr enwebiad nesaf yn fenywaidd, er iddi orffen yn ail i ddyn yn y bleidlais ymhlith aelodau.

"Ro'n i'n gwybod y byswn i'n cael fy nhargedu am fod yn ddynes, ond do'n i ddim yn deall sut byddai hynny'n teimlo tan iddo ddigwydd," meddai.

"Dwi'n barod iawn i gael fy meirniadu, ac wastad yn hapus i fod yn rhan o drafodaeth. Ond roedd rhywbeth personol fel hyn eithaf anodd."

Ffynhonnell y llun, House of Lords
Disgrifiad o’r llun,

Charlotte Owen, cyn-ymgynghorydd i Boris Johnson, oedd y person ieuengaf yn y siambr, ond mae Ms Smith dair blynedd yn iau nag yr oedd hithau pan gafodd ei hurddo

Cafodd Y Farwnes Smith ei chyflwyno i'r Arglwyddi gan gyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley a chyn-arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett ac fe wnaeth dyngu'i llw yn Gymraeg.

Cyn iddi gael ei chyflwyno, dywedodd Carmen Smith ei fod yn "hynod ymwybodol o'r cyfrifoldeb unigryw sydd gennyf i fod yn llais i 'nghenhedlaeth".

"Ledled Cymru, mae lleisiau ifanc yn cael eu boddi gan fethiannau strwythurau gwleidyddol ac economaidd y DG. Maen nhw'n haeddu cael eu clywed," meddai.

'Barod i weiddi'n uchel'

"Mewn Tŷ'r Arglwyddi lle na fydd llawer o aelodau yn edrych yn debyg i mi, rwy'n gwybod y bydd yn rhaid i mi weiddi'n uchel. Rydw i'n barod i wneud hynny."

Ychwanegodd ei bod wedi cynnwys 'Llanfaes' yn ei theitl gan ei bod eisiau "taflu goleuni ar brofiadau pobl mewn ardaloedd fel fy rhai i".

"Nid yw fy mhrofiadau yn unigryw o bell ffordd, ond maent mewn byd gwahanol iawn i fywydau'r rhan fwyaf yn San Steffan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Wigley ei fod yn bwriadu parhau i weithio yn Nhŷ'r Arglwyddi tan ar ôl yr etholiad nesaf

Dywedodd Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru a chyn-arweinydd y blaid, Dafydd Wigley ei fod yn "croesawu penodiad Carmen yn fawr" a'i fod yn "edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â hi".

"Mae'n wir fy mod wedi dweud yn y gorffennol nad oeddwn yn rhagweld y buaswn yn parhau yn yr Arglwyddi ar ôl cyrraedd 80 oed," meddai.

"Fodd bynnag, gyda phenodiad Carmen, sydd i'w groesawu'n fawr, penderfynais aros fymryn yn hwy i'w helpu i ymgyfarwyddo â'r gwaith.

"Mae arweinydd y Blaid yn San Steffan, y Gwir Anrhydeddus Liz Saville Roberts AS, hefyd wedi gofyn i mi a fuaswn yn dal ati tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gorwel er mwyn helpu i bontio rhwng y newidiadau gwleidyddol fydd yn cael effaith ar Gymru gyda newid y ffiniau; a dyfodiad llywodraeth newydd."

Fe gadarnhaodd yr Arglwydd Wigley ei fod bellach yn bwriadu parhau i weithio yn Nhŷ'r Arglwyddi tan ar ôl yr etholiad nesaf, gan ychwanegu ei fod hefyd yn gobeithio gweld Elfyn Lwyd yn cael ei benodi i'r Arglwyddi yn y dyfodol agos.