Siom i'r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Her Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Charlie Telfer yn herio chwaraewyr y Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, SNS

Colli oedd hanes y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Her Yr Alban wedi i dîm Airdrieonians eu trechu o ddwy gôl i un mewn gêm gystadleuol.

Roedd colli yn arbennig o siomedig gan y byddai buddugoliaeth i bencampwyr y Cymru Premier wedi bod yn un nodedig - y tîm cyntaf o du hwnt i'r Alban i godi'r tlws.

Fe fyddai hefyd wedi golygu estyn eu rhediad o fuddugoliaethau ymhob cystadleuaeth i 27.

Ond nid felly y bu er i dîm Craig Harrison sgorio gyntaf yn Stadiwm Falkirk - fe rwydodd Ben Clark yn y 12fed munud.

Daeth Liam McStravick y gwrthwynebwyr yn gyfartal 10 munud yn ddiweddarach.

Fe sgoriodd Nikolay Todorov o'r smotyn wedi 67 o funudau, yn dilyn trosedd gan Josh Pask ar Josh O'Connor yn y cwrt cosbi, i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dywedodd Craig Morrison ei fod yn siomedig ar ran ei chwaraewyr a'r cefnogwyr a wnaeth yr ymdrech i deithio i'r Alban, yn enwedig ar ôl colli o ganlyniad cic gosb.

Pynciau cysylltiedig