Cymru v Gwlad Pwyl: Rhybudd tân gwyllt cyn gêm Euro 2024
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd i gefnogwyr Cymru a Gwlad Pwyl i beidio dod â dyfeisiadau tân gwyllt i'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Dywedodd Heddlu'r De bod unrhyw un sy'n dod â dyfais o'r fath i'r digwyddiad yn wynebu cael eu harestio a'u gwahardd rhag mynd i gemau yn y dyfodol.
Daw'r rhybudd ar ôl i saith o gefnogwyr gael eu harestio mewn gêm rhwng y ddwy wlad ym mis Medi 2022.
Fe fydd Cymru yn wynebu'r Pwyliaid yn rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2024 ar ôl trechu'r Ffindir o 4-1 nos Iau.
Mae unrhyw ddyfeisiadau tân gwyllt wedi eu gwahardd mewn meysydd pêl-droed yn y Deyrnas Unedig
Y tro diwethaf i Wlad Pwyl chwarae yng Nghaerdydd, cafodd saith o bobl eu harestio yn eisteddle'r ymwelwyr, gyda phedwar o'r rheini yn cael eu cyhuddo o fod â dyfeisiadau tân gwyllt yn eu meddiant.
Yn ogystal, cafodd nifer o gefnogwyr Gwlad Pwyl eu hel o'r stadiwm am dorri rheolau eraill, yn cynnwys ysmygu ac yfed alcohol.
Roedd trafferthion hefyd yn ystod gêm rhwng Aston Villa a chlwb o brif ddinas Gwlad Pwyl, Legia Warsaw ym mis Tachwedd.
Cafodd 46 o gefnogwyr Pwylaidd eu harestio yn dilyn achosion o wrthdaro gyda'r heddlu.
'Peryglon iechyd sylweddol'
Dywedodd yr uwcharolygydd Steve Rees bod gan Heddlu De Cymru brofiad helaeth o heddlua digwyddiadau chwaraeon mawr, a bod cynllun clir yn ei le ar gyfer nos Fawrth.
"Mae bod â dyfais tân gwyllt yn eich meddiant mewn gêm bêl-droed, neu geisio dod ag un i mewn i stadiwm bêl-droed yn drosedd, ac mae unrhyw un sy'n cael ei farnu'n euog o drosedd o'r fath yn wynebu gwaharddiad o gemau pêl-droed (Football Banning Order)."
"Fel bob tro, byddwn yn annog pawb sy'n mynd i'r gêm i ddilyn y cyngor i gefnogwyr sy'n cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC)."
Dywedodd CBDC mewn datganiad: "Does dim ffasiwn beth a defnydd diogel o ddyfeisiadau tân gwyllt mewn eisteddleoedd, ac mae defnydd o'r fath eitemau yn achosi peryglon iechyd sylweddol."
Mae disgwyl y bydd tua 1,900 o gefnogwyr Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022
- Cyhoeddwyd24 Mawrth