Amgueddfa'n apelio am arian i dalu costau cynnal

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa LlandudnoFfynhonnell y llun, Huw Pritchard

Mae un sefydliad yn y gogledd wedi lansio apêl am gymorth gan y cyhoedd wrth geisio mynd i'r afael gyda chostau cynyddol.

Elusen annibynnol yw Amgueddfa Llandudno, ac mae'r hinsawdd economaidd yn gynyddol heriol i'r sefydliad.

Bu un o ymddiriedolwyr yr amgueddgfa, Huw Pritchard, yn amlinellu'r her sy'n eu hwynebu nhw a nifer o sefydliadau tebyg eraill ar draws Cymru.

Dywedodd fod costau'n cynyddu, a rhai ffynnonellau incwm yn crebachu.

Sefyllfa anodd

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Pritchard: "Mae'n costio tua £80,000 y flwyddyn i redeg yr amgueddfa - tua £6,000 y mis - ac mae hynny'n mynd ar gostau cynnal a chadw'r adeilad, costau ynni, insurance, cyflogau staff... y math yna o beth.

"Elusen annibynnol ydan ni a ddim yn rhan o wasanaethau'r cyngor, felly mae'n rhaid i ni godi arian ein hunain ac mae tri ffordd o wneud hynny.

"Un yw incwm masnachol, ac rydan ni'n 'neud yn dda gyda hynny; grantiau, sy'n mynd yn fwy fwy anodd i'w cael oherwydd y pwysau ariannol ar gyrff fel y cynghorau, a rhoddion.

"Ry'n ni'n edrych yn gyson ar lle y gallwn ni dorri costau a gwneud arbedion."

Dywedodd fod y costau'n dal i godi a bod sefyllfa'r amgueddfa yn anodd.

"Mae'r incwm masnachol yn dod i mewn ond ar ben ei hun fydd hynny ddim yn ddigon.

"Os ydi pethau'n mynd yn ddrwg fasa rhaid edrych ar ddosbarthu'r stoc sy' gynnon ni, oherwydd mae cyfrifoldeb cytundebol arnan ni i warchod y stoc sydd wedi cael ei roi i ni gan sefydliadau ac unigolion ardal Llandudno ers dros 100 mlynedd."

Bydd yr apêl yn targedu cefnogwyr a phobl leol sy'n dod i mewn ac sy'n cefnogi'r amgueddfa, ond hefyd y nod yw gweithio gyda phartneriaid eraill i helpu gyda chostau cynnal a chadw.