Meddygon yn gohirio streiciau i drafod cyflogau

  • Cyhoeddwyd
streic
Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon iau wedi bod yn streicio gan ddweud eu bod nhw'n anhapus gyda chynnig Llywodraeth Cymru o gynnydd o 5% mewn cyflogau.

Ni fydd ymgynghorwyr meddygol a doctoriaid arbenigol yng Nghymru yn streicio wythnos nesaf, ar ôl i Gymdeithas Feddygol y BMA a Llywodraeth Cymru gytuno i gynnal trafodaethau yn ymwneud â thâl.

Roedd y meddygon wedi trefnu i weithredu am 48 awr o fore Mawrth, 16 Ebrill.

Hon fyddai wedi bod y streic gyntaf erioed gan uwch feddygon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Byddai wedi golygu fod y GIG yn cynnig llai o wasanaethau - tebyg i hynny ar wŷl y banc - gyda nifer o driniaethau ac apwyntiadau wedi'u gohirio.

Mae meddygon iau yng Nghymru hefyd wedi cytuno i beidio cyhoeddi rhagor o streiciau wrth iddyn nhw ddechrau trafodaethau gyda'r llywodraeth.

Roedd meddygon iau wedi cynnal streic 96 awr ym mis Mawrth, am eu bod nhw'n anhapus gyda chynnig Llywodraeth Cymru o gynnydd o 5% mewn cyflogau.

Yn ôl gweinidogion, maen nhw dal yn wynebu "sefyllfa ariannol ddifrifol" ond maen nhw'n gobeithio dod â'r anghydfod i ben.

'Cam sylweddol ymlaen'

Mae'r cyhoeddiad yn "gam sylweddol ymlaen", meddai cyd-gadeiryddion pwyllgor meddygon iau BMA Cymru, ac "er ei bod hi'n drist bod yn rhaid i ni weithredu'n ddiwydiannol i gyrraedd fan hyn, rydyn ni'n falch o'n haelodau am ddangos pa mor benderfynol ydyn nhw i gael cytundeb teg".

Ychwanegodd Dr Oba Babs Osibodu a Dr Peter Fahey: "Er ein bod ni'n teimlo'n gadarnhaol ac yn gobeithio y bydd modd dod i gytundeb cyflym, rydyn ni'n benderfynol o sicrhau bod meddygon yn cael eu talu'n deg. Tan i ni ddod i gytundeb, mae unrhywbeth yn bosib."

Mae dros hanner gweithlu meddygol ysbytai (54%) yn feddygon ymgynghorol ac arbenigol, gyda 3,137 o ymgynghorwyr a 1,088 o ddoctoriaid arbenigol yn gweithio mewn ysbytai ledled Cymru.

Yn ôl y BMA, mae tâl y meddygon yma wedi gostwng draean mewn termau real ers 2008/09.

Roedd 86% o ymgynghorwyr a 94% o ddoctoriaid arbenigol wedi pleidleisio o blaid y gweithredu diwydiannol ym mis Mawrth.

Daeth hynny ar ôl iddyn nhw wrthod cynnig tâl terfynol Llywodraeth Cymru o 5%, gyda chymdeithas feddygol y BMA yn dadlau mai dyna'r cynnig gwaethaf ar gyfer holl wledydd y DU.

Streic meddygon iau

Mae meddygon iau yng Nghymru wedi streicio deirgwaith eleni.

Roedd tua 3,000 o feddygon iau yn rhan o'r streic ddiweddaraf ar 25 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon iau yng Nghymru wedi streicio am 10 diwrnod ers mis Ionawr

Yn ystod y gweithredu blaenorol ym mis Chwefror, cafodd 9,102 o apwyntiadau (30% o'r holl apwyntiadau) a 1,090 o lawdriniaethau (32% o bob llawdriniaeth) eu gohirio.

Mae 'na amcangyfrif bod y streiciau gan feddygon iau wedi costio £1.1m y diwrnod i'r GIG gan fod yn rhaid galw uwch feddygon i weithio shifftiau ychwanegol.

Felly mae'n debygol y bydd y 10 diwrnod o weithredu diwydiannol gan feddygon iau eleni yn costio tua £11m i fyrddau iechyd Cymru.

Roedd meddygon iau hefyd wedi gwrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru o 5% o gynnydd.

Sefyllfa ariannol 'mwyaf heriol ers datganoli'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw a Chymdeithas feddygol y BMA "wedi cytuno i gynnal trafodaethau am dâl" a bod y streic oedd i fod i ddigwydd wythnos nesaf "wedi ei gohirio wrth i'r trafodaethau gael eu cynnal".

"Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu'r sefyllfa ariannol mwyaf heriol ers datganoli, mae 'na waith sylweddol wedi ei gwblhau er mwyn ariannu'r trafodaethau yma."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod y llywodraeth eisiau gwrando ar bryderon meddygon

Dywedodd prif weinidog Cymru, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n cydnabod pa mor gryf mae aelodau o gymdeithas y BMA yn teimlo am y sefyllfa a dydy streicio heb fod yn benderfyniad hawdd.

"Rydyn ni eisiau gwrando er mwyn dod o hyd i atebion ac rydw i a'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cynnal cyfarfod uniongyrchol gyda'r BMA er mwyn atgyfnerthu'r ymrwymiad i gydweithio.

"Mae'r sefyllfa ariannol yn gwneud y dasg yn anoddach fyth... rydw i'n gobeithio y bydd modd dod â'r anghydfod yma i ben er mwyn sicrhau bod meddygon yn medru dychwelyd i weithio i'r GIG."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Eluned Morgan ei bod yn "falch bod y BMA wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n gweithredu'n ddiwydiannol am y tro wrth i'r trafodaethau ffurfiol ddechrau gyda Llywodraeth Cymru ac rydw i'n gobeithio y gallwn ni ddod â'r anghydfod i ben".

Pynciau cysylltiedig