O feicio i regatas: Amser hamdden annisgwyl y chwarelwyr

  • Cyhoeddwyd
Llechid Swifts
Disgrifiad o’r llun,

Tîm pêl-droed y Llechid Swifts yn 1911, un o'r nifer o dimau pêl-droed o chwarelwyr a gafodd eu sefydlu. Llun o A Coast of Soccer Memories gan Gareth M. Davies

Mae 'na ddarlun o chwarelwyr y gogledd orllewin yn ystod y 19eg ganrif wedi datblygu ym meddyliau nifer ohonom ni, o bobl Dduwiol, oedd â'u holl ddiddordebau ynghlwm â'r Capel.

Ond mae ymchwil gan yr hanesydd Dr Meilyr Emrys yn datgelu fod hyn ymhell o'r gwir, a bod chwaraeon, a'r hyn a ddaw yn sgil hynny fel betio a chystadlu, wedi dod yn beth mawr yn ardaloedd y llechi yn y cyfnod yna.

Campau 'gwaraidd'

Pêl-droed oedd un o'r campau a ledaenodd gyflymaf yn ardaloedd y chwareli, yn ôl Dr Meilyr Emrys.

Cafodd tîm ei sefydlu ym Mhorthmadog yn 1872, cyn i'r diddordeb symud i'r pentrefi mawr chwarelyddol, fel Bethesda, ac yna i'r pentrefi llai.

Roedd timau fel Bethel Heroes, Penygroes Wanderers, Blaenau Athletics a Llechid Swifts yn enwau cyfarwydd i drigolion ardal ddiwydiannol y gogledd orllewin, ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.

Ond yn syndod, criced oedd un o'r campau cyntaf i fynd â bryd y chwarelwyr, a hynny, o bosib, oherwydd y statws oedd ynghlwm â'r gamp.

"Mi oedd 'na deimlad ymysg y chwarelwyr hŷn, eu bod nhw ar frig y dosbarth gweithiol," eglurodd Meilyr Emrys. "Mae gweithio efo llechi yn grefft hollol arbenigol, ac yn sgil unigryw, felly roedd y chwarelwyr yn sylweddoli eu bod nhw'n weithwyr medrus.

Disgrifiad o’r llun,

Chwarelwyr yn Ebenezer (Deiniolen) gyda rhai yn arddangos eu parchusrwydd mewn dillad trwsiadus, fel het bowler a thei, ac wedi croesi eu coesau

"'Dan ni'n gweld o ymddygiad y chwarelwyr bod nhw'n arddangos eu hunan-bwysigrwydd, er enghraifft gwisgo mewn ffordd neilltuol o drwsiadus, o ystyried eu bod nhw'n gweithio mewn diwydiant trwm a llychlyd.

"Mae 'na luniau sy'n dangos chwarelwyr yn troi i fyny i'r gwaith, yn gwisgo trowsusau gwyn, hetiau bowler, teis hyd yn oed, ac yn cario ymbarél.

"A 'da ni'n gweld o ran eu diddordebau, cyn pêl-droed, criced ydi un o'r campau cyntaf oedd yn cael ei chwarae yn y pentrefi chwarelyddol. Mae 'na dîm yn Y Felinheli yng nghanol yr 1860au.

"Mi oedd criced, yn arbennig yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, yn cael ei ystyried yn gyfrwng i 'wareiddio' pobl, a bendant yn ffordd dda i gadw gweithwyr i ffwrdd o ddrygioni a helyntion. Efo criced, mae 'na ysbryd bonheddig i'r gamp a bron â bod rhyw god o anrhydedd yn bodoli.

"Felly wrth gwrs drwy fynd ati i chwarae camp fel criced, mi oedd y chwarelwyr yn arddangos 'mi ydan ni'n bobl eitha' parchus'."

Cystadleuol

Ond oedd campau fel yma wir yn "cadw gweithwyr i ffwrdd o ddrygioni a helyntion"?

Roedd elfen gystadleuol y campau yn dod allan ymhlith y chwarelwyr yn ystod yr amryw o ddigwyddiadau blynyddol a ddatblygodd, fel mabolgampau a hyd yn oed regata, meddai Meilyr Emrys.

"Mae'n ymddangos fod gan rai [chwarelwyr] gychod bach - yn gychod hwylio bach neu gychod rhwyfo - achos mae'n ymddangos fod y regata flynyddol 'ma ar Lyn Padarn yn dipyn o ddigwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Archifau Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb ar gyfer y regata flynyddol ar Lyn Padarn ym mis Awst 1889

"Erbyn diwedd yr 1880au, bob mis Awst, oedd o'n denu yn llythrennol miloedd o bobl i wylio'r rasys - ac yn ôl y rhaglen, o'dd nifer o'r rasys yna yn cael eu trefnu'n benodol ar gyfer pobl leol. Yn rhaglen 1889, mae 'na ras yn honno, Four Oared Gigs, Cwm y glo and Llanberis (only). Felly roedd 'na rasys hwylio a rhwyfo yn benodol ar gyfer y chwarelwyr.

"Peth arall sy'n ddiddorol am y regata, fod yna rasys rhwyfo oedd jyst yn agored ar gyfer merched."

Roedd beicio yn gamp arall a oedd yn denu diddordeb, ond fod yna ddeuoliaeth ryfedd yn ymwneud â hi, meddai Dr Emrys, o ran yr ochr hamddena a'r cystadlu. Y cystadlu oedd wir yn diddanu'r chwarelwyr, meddai.

"Mae 'na ryw fath o chwiw beicio yn lledaenu ar draws Prydain i gyd ar ddiwedd 19eg ganrif, a mae o'n rhyw fath o rannu'n ddwy.

Ffynhonnell y llun, Meilyr Emrys
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r 'Beiciwr chwarelyddol' a fyddai'n cystadlu mewn rasys a mabolgampau

"Ar yr un llaw, mae'r traddodiad o glybiau yn mynd ati i deithio i lefydd yn hamddenol efo'i gilydd, a defnyddio'r beic fel ffordd o gymdeithasu. Roedd hwnna'n draddodiad mwy dosbarth canol, ac oherwydd hwnnw, mae seiclo yn cael ei weld fel rhywbeth mwy soffistigedig.

"Law-yn-llaw efo hynny, mae'r busnes o rasio beics, sydd yn rhywbeth lot mwy dosbarth gweithiol.

"Yn y cyfnod yma mae 'na fabolgampau lleol yn cael eu cynnal, bron â bod ym mhob pentref yn y gogledd orllewin yn ystod yr haf.

"Ac ochr-yn-ochr â rasys rhedeg, mae 'na rasys beicio, ac yn lot o'r mabolgampau 'ma, mae 'na rasys beic sydd yn benodol ar gyfer chwarelwyr.

Ffynhonnell y llun, Yr Herald
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb am fabolgampau ym Mhwllheli yn Yr Herald ym mis Ebrill 1900

"Mae o'n hollol amlwg bod 'na rai chwarelwyr oedd yn teithio o un mabolgampau i'r llall er mwyn cystadlu yn y rasys 'ma. Mi oedd 'na wobrau i'w cael, ac o'dd rhai o'r chwarelwyr hynny yn ei gymryd o o ddifri."

Tor-cyfraith

Fodd bynnag, er 'soffistigeiddrwydd' rhai o'r chwaraeon yma oedd yn diddanu'r chwarelwyr, mae'n ymddangos fel bod yna drafferthion ac ymddygiad llai na Duwiol wedi datblygu.

Roedd betio ar gystadlaethau a gemau "yn rhemp" yn yr ardal, a'r diddordeb newydd mewn beicio wedi dod â phroblem newydd i'r cymunedau.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Stori yn The North Wales Express ar 1 Mai 1093 am feic yn cael ei ddwyn yn ardal Llanberis

"Os 'da ni'n edrych ar gymunedau chwarelyddol ar ddiwedd 19eg ganrif, yn ystod y chwiw beicio, mae 'na doreth o achosion o ddwyn beics mewn llefydd fel Blaenau Ffestiniog a Llanberis," eglurodd Meilyr Emrys.

"'Da ni'n gweld y straeon 'ma'n cael eu hadrodd yn y papurau newydd, o chwarelwyr yn eu cael yn euog o ddwyn beics a'u gwerthu ymlaen.

"Felly yr eironi yn fan'na ydi'r syniad fod beicio yn arddangos parchusrwydd, ond ei fod o hefyd wedi arwain at lot mwy o dor-cyfraith yn y pentrefi chwarelyddol."

Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2021.

Pynciau cysylltiedig