Gêm goffa i Gary Speed

  • Cyhoeddwyd
Gary SpeedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer o ddigwyddiadau i gofio am fywyd a gyrfa Gary Speed

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai gêm nesa'r tîm rhyngwladol fydd Gêm Goffa Gary Speed.

Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher, Chwefror 29, am 7:45pm yn erbyn Costa Rica.

Y nhw oedd gwrthwynebwyr Cymru pan chwaraeodd Gary Speed ei gêm gyntaf i Gymru ym mis Mai 1990 ar Barc Ninian gyda Chymru'n fuddugol o 1-0.

Bydd y noson yn gyfle i ddathlu bywyd Gary Speed ac fe fydd nifer o ddigwyddiadau i gofio am ei fywyd a'r hyn gyflwanodd fel chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymru.

Bydd tocynnau ar gyfer y gêm ar werth ddydd Mercher, Ionawr 11, £10 i oedolion a £5 i blant a phensiynwyr, gyda 10% o'r gwerthiant yn mynd i elusennau.

Mwy o gapiau

Bu farw cyn reolwr Cymru ym mis Tachwedd yn 42 oed.

Enillodd fwy o gapiau i Gymru na neb arall heblaw golwyr, 85 i gyd, ac roedd yn rheoli Bolton a Sheffield United cyn rheoli Cymru ac olynu John Toshack yn Rhagfyr 2010.

Wedi dechrau anodd roedd y tîm o dan ei reolaeth wedi ennill pedair o'u pum gêm ddiwethaf.

Y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy o 4-1 ar Dachwedd 12 oedd ei gêm olaf - trydedd fuddugoliaeth Cymru yn olynol.