Disgwyl enwi Chris Coleman fel olynydd Speed
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Cymro Chris Coleman gael ei enwi fel rheolwr newydd Cymru ddydd Iau.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi galw cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd lle bydd y penodiad yn cael ei gadarnhau.
Bu cyn-amddiffynnwr Cymru yn cynnal trafodaethau gyda'r Gymdeithas yn gynharach yn yr wythnos.
Daw hyn ar ôl iddo ddweud bod ganddo ddiddordeb i olynu ei gyfaill Gary Speed.
Bu farw Speed ym mis Tachwedd.
"Mae pob rheolwr ryw ddiwrnod eisiau bod yng ngofal ei wlad, a dwi ddim yn wahanol," meddai Coleman, 41 oed, ddydd Sul.
'Balch'
"Ond fe fyddwn i'n dymuno petai'r amgylchiadau yn wahanol.
"Os mai fi fydd yn cael y swydd fe fyddaf yn Gymro balch."
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn ofalus iawn i ganfod rheolwr newydd ar ôl marwolaeth Speed.
Dywedodd Coleman fod swyddogion wedi cysylltu gyda fo'r wythnos diwethaf ar ôl iddi ymddiswyddo fel rheolwr Larissa oherwydd problemau ariannol yn y clwb yng Ngwlad Groeg.
Yr unig berson arall i ddweud yn gyhoeddus fod ganddo ddiddordeb yw John Hartson.
Ond mae enwau Ryan Giggs ac Ian Rush wedi eu cysylltu â'r swydd hefyd.
Mae'r Gymdeithas yn awyddus i'r broses o benodi olynydd fod yn hwylus ac adeiladu ar yr hyn y sefydlodd Speed dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Coleman wedi dweud ei fod yn barod i weithio gyda'r rheolwyr cynorthwyol Raymond Verheijen ac Osian Roberts.
Mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi rhoi cefnogaeth i'r ddau i barhau fel rhan o'r tîm hyfforddiant.
Profiad
Mae Capten Cymru, Aaron Ramsey, wedi dweud bod angen "cyn lleiad o newid â phosib".
Wedi blwyddyn allan o'r gamp fe wnaeth Coleman ddewis mynd i reoli Larissa ym mis Mai 2011.
Bu am ddwy flynedd a hanner tan 2010 yn rheoli Coventry.
Mae o hefyd wedi rheoli Real Sociedad.
Daeth ei yrfa chwarae i ben yn 32 oed wedi iddo gael damwain car ond cafodd ei benodi o fewn y flwyddyn yn rheolwr ar Fulham.
Yn ystod y pedair blynedd y bu wrth y llyw yn Craven Cottage aeth a'r clwb i'w safle ucha yn yr Uwchgynghrair, nawfed, cyn cael ei ddiswyddo yn 2007.
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn awyddus i benodi rheolwr cyn gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae er cof am Speed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012