Elusen: Rhybudd yn 2004 i beidio ag ariannu
- Cyhoeddwyd
Gall BBC Cymru ddatgelu y cafodd Llywodraeth Cymru eu rhybuddio yn 2004 i beidio â rhoi unrhyw arian cyhoeddus newydd i elusen lleiafrifoedd ethnig.
Dywedodd adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan weinidogion, am Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru-Gyfan (Awema) na ddylai unrhyw gynlluniau newydd dderbyn arian gan y llywodraeth tan eu bod nhw'n gallu dangos eu bod wedi gwella rheoli prosiectau a pherfformiad.
Roedd hefyd yn argymell bod gweision sifil yn goruchwylio eu gwaith yn fwy manwl.
Mae'r elusen wedi cael eu cyhuddo o gamreoli ariannol ac mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad ddydd Iau am y modd yr oedd yn gwario £8.4m o arian cyhoeddus.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd y llywodraeth eu bod nhw wedi atal ariannu'r elusen oherwydd pryderon am yr hyn yr oedd y prif weithredwr Naz Malik ac eraill yn y mudiad yn ei wneud.
Daeth yr adroddiad i law'r Democratiaid Rhyddfrydol ddywedodd fod tystiolaeth felly fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu rhybuddion am yr elusen.
'Adolygu'
Wrth ymateb i'r adroddiad blaenorol, dywedodd Llywodraeth Cymru mai eu blaenoriaeth oedd delio gyda'r materion cyfredol.
"Er hynny, ... mae'r Ysgrifennydd Parhaol yn adolygu'r cyllid a roddwyd dros gyfnod o flynyddoedd i'r mudiad.
"Fe fyddai'n amhriodol gwneud sylw tan fod y gwaith wedi ei orffen."
Roedd Prif Was Sifil Cymru, y Fonesig Gillian Morgan, wedi dweud yr wythnos diwethaf ei bod hi'n derbyn y dylai'r elusen fod wedi eu dynodi'n "risg uchel".
Ynghynt ddydd Mawrth dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oedd gan ei lywodraeth "unrhyw beth i'w guddio" ynglŷn â'r berthynas gyda'r elusen.
Ond dywedodd wrth ACau yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog nad oedd hi'n glir a oedd yr adroddiad blaenorol wedi cael ei gyhoeddi neu beidio.
'Problemau'
Yn y cyfamser, daeth yr adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan swyddogion yn gweithio i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd, Edwina Hart, i ddwylo'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: "Mae'r adroddiad ... yn dweud yn glir fod y Llywodraeth Lafur ar y pryd yn gwybod bod problemau yn achos yr elusen, eu hariannu a'u rheoli ariannol.
"Cyngor adolygiad annibynnol oedd na ddylai'r llywodraeth barhau i ariannu'r elusen. Pam na ddilynodd y cyngor hwnnw?
"Ers yr adroddiad mae'r elusen wedi derbyn miliynau o bunnau, arian y trethdalwr. Mewn cyfnod economaidd anodd mae'r cyhoedd yn disgwyl i'r llywodraeth wario eu trethi'n ddoeth. Dyw hyn ddim yn ddigon da."
'Profi'
Ar ôl archwilio tri o gynlluniau'r elusen fe gasglodd yr adroddiad "na ddylid rhoi unrhyw arian pellach i Awema ar gyfer cynlluniau newydd, tan fod Awema yn gallu profi eu bod nhw wedi cymryd camau penodol i wella rheolaeth eu prosiectau a pherfformiad".
Roedd hefyd yn beirniadu'r Gwasanaeth Sifil am eu diffyg goruchwyliaeth.
Mynegodd arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr eu pryderon ynglŷn ag Awema yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog a dywedodd Mr Jones y byddai adroddiad cychwynnol, sy'n ystyried a ddylai'r sefydliad barhau i dderbyn arian cyhoeddus, yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012