Ymgeiswyr yn ceisio cefnogaeth

  • Cyhoeddwyd
Ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru yw Dafydd Elis Thomas, Elin Jones a Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Ymgeiswyr arweinyddiaeth Plaid Cymru: Dafydd Elis Thomas, Elin Jones a Leanne Wood

Mae'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod yn amlinellu eu blaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf mewn cyfarfod hustyngau ym Mae Caerdydd nos Fawrth.

Prif flaenoriaeth Leanne Wood oedd swyddi a chynllun ariannol i drawsnewid Cymru.

Dywedodd Elin Jones bod angen diffinio map i arwain tuag at annibyniaeth i Gymru.

Mynnodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod rhaid i Gymru fuddsoddi mewn ynni carbon-isel, gan gynnwys ynni niwclear - rhywbeth y mae nifer o fewn y blaid yn gwrthwynebu.

'Torri'n rhydd'

Dywedodd Leanne Wood, Aelod Cynulliad Canol De Cymru: "Rwyf wedi annog annibyniaeth iawn i Gymru fel y gallwn o'r diwedd dorri'n rhydd o'r sustem sy'n ein cadw ni i lawr.

"Rydym wedi dysgu bod yn wan, rydym wedi dysgu i fod yn dlawd, ac mae'n bryd i ni ddysgu bod yn llewyrchus a chryf.

"Rwy'n gobeithio arwain Plaid Cymru er mwyn arwain Cymru i lawr y llwybr llewyrchus yr ydym yn ei haeddu."

Os fydd yn llwyddiannus, dywedodd y byddai'n blaenoriaethu'r cysylltiad rhwng yr arweinyddiaeth ac aelodaeth y blaid.

Er bod y tri yn cytuno gyda'r syniad o wahardd ysmygu mewn ceir sy'n cario plant, roedd Ms Wood - cyn swyddog prawf - yn amau a ddylai hynny fod yn flaenoriaeth wrth geisio diogelu plant.

'Ysbrydoli Cymru'

Dywedodd Elin Jones - AC Ceredigion - fod rhaid i Blaid Cymru "ddiffinio a chytuno yn ddemocrataidd o fewn y blaid ein map tuag at annibyniaeth".

Mater i'r blaid wedyn fyddai "ysbrydoli gweddill Cymru gyda'r map yna".

Mynnodd na ddylai Cymru gael ei thwyllo i feddwl y byddai'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban - lle mae llywodraeth yr SNP wedi cynnig refferendwm ar annibyniaeth - gael ei ailadrodd yng Nghymru.

Ychwanegodd nad oedd am gael ei gweld fel "par saff o ddwylo" yn unig ond fel gwleidydd eofn ac uchelgeisiol.

Ynni niwclear

Pwysleisiodd yr Arglwydd Elis-Thomas, sy'n ymgyrchu dan faner "arweinyddiaeth gynaliadwy", bwysigrwydd polisïau i liniaru newid hinsawdd a'r diwydiant ynni adnewyddol.

Dywedodd y gallai Plaid Cymru ennill sedd ychwanegol - pedair yn lle'r tair bresennol - pan fydd y ffiniau etholaethol yn newid.

Ond dywedodd hefyd bod yna "fethiannau arweinyddol" wedi bod ers datganoli yn 1999 - ers hynny mae'r blaid wedi bod o dan arweinyddiaeth Dafydd Wigley a Ieuan Wyn Jones.

Dywedodd: "Am ryw reswm enillodd y Blaid ddatganoli heb sylweddoli beth i wneud gydag ef. Roedd methiant mewn arweinyddiaeth."

Wrth gyfeirio at adeilad y Senedd, dywedodd: "Nid yw dyfodol Cymru dros y dŵr yn Afallon, mae o yn yr adeilad yna."

Bydd aelodau Plaid Cymru yn ethol eu harweinydd nesaf drwy sustem y bleidlais amgen, ac fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 15.

Cyhoeddodd yr arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, y byddai'n ildio'r awenau yn dilyn canlyniadau siomedig yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol