'Cyfnod allweddol' i rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Roger LewisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi dweud ei bod yn "gyfnod allweddol" i rygbi yng Nghymru.

Mae'r pedwar rhanbarth rygbi yn wynebu cyfnod anodd gyda niferoedd sy'n gwylio'r gêm yn dirywio, a nifer o'r chwaraewyr amlycaf yn gadael i ennill eu bara menyn yn Ffrainc.

Ond mae Lewis yn credu y gall mwy o gydweithio rhwng yr Undeb a'r rhanbarthau yn fuddiol i ddyfodol tymor hir y gêm.

"Rydym ar groesffordd sylfaenol yn hanes rygbi Cymru," meddai Mr Lewis.

"Mae'n gyfnod allweddol ac mae'n gyffrous oherwydd os gawn ni bethau'n iawn fe fydd gennym rywbeth y bydd y byd yn eiddigeddus ohono.

"Rhaid i ni feddwl yn wahanol. Allwn ni ddim meddwl y gallwn drwsio beth sydd wedi digwydd o'r blaen.

"Rhaid creu rhywbeth llawer mwy radical a chynaliadwy fydd yn symud ein gêm ymlaen."

Uchafswm

Er bod y tîm cenedlaethol ar frig y don wedi ennill y Goron Driphlyg, mae wedi bod yn gyfnod anoddach o lawer i'r rhanbarthau.

Cyhoeddodd y pedwar rhanbarth - Y Dreigiau, Y Gleision, Y Gweilch, a'r Scarlets - uchafswm cyflog o £3.5 miliwn i'w carfannau ar gyfer dechrau 2012-13, ac fe gafodd hynny groeso gan Undeb Rygbi Cymru.

Nod creu'r uchafswm yw sicrhau diogelwch ariannol fel y gall y rhanbarthau barhau i ddatblygu chwaraewyr ifanc.

Mae cwmni archwilwyr PricewaterhouseCoopers ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad ariannol yn dilyn trafodaethau rhwng y rhanbarthau a'r Undeb.

'Dim atebion'

Ond mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, ychwanegodd Mr Lewis:

"Y peth pwysig yw na fydd yr adolygiad yn cynnig atebion - rhaid i ni wneud hynny.

"Bydd yr adolygiad yn rhoi'r wybodaeth i ni fedru fframio ein meddyliau, ond rhaid i ni ddatrys hyn ein hunain, a gwneud hynny gyda mwy o undod nag sydd wedi cael ei weld yn y gorffennol.

"Rwy'n hyderus y bydd ateb i rygbi Cymru. Mae digon o arian o fewn y gêm i fedru datrys y peth. Rydym wedi ymrwymo i roi tua £30m i rygbi rhanbarthol."

Mae nifer o sêr wedi dweud eu bod am adael Cymru i chwarae yn Ffrainc ar ddiwedd y tymor.

Mae Lee Byrne, James Hook a Mike Phillips eisoes yn chwarae i glybiau yn Ffrainc, a bydd Gethin Jenkins, Luke Charteris, Huw Bennett ac Aled Brew yn ymuno â nhw ar ddiwedd y tymor.

'Deniadol'

Er bod Roger Lewis yn cytuno ei bod yn anodd rhwystro'r Cymry rhag gadael mae'n dweud nad yw'r model yn Ffrainc yn gynaladwy.

"Mae'r cyflogau sydd ar gael yn Ffrainc yn afreal ac anghynaladwy. Roedd Stade Francais yn un o'r clybiau mwyaf yno gydag un o'r biliau cyflog mwyaf," meddai.

"Nawr mae hynny wedi mynd ac mae'r chwaraewyr yn gadael. Does dim modd parhau gyda hynny.

"Yr hyn sydd angen ei wneud yng Nghymru yw creu amgylchedd yma sydd mor ddeniadol fel na fydd chwaraewyr eisiau gadael.

"Yn sail i hynny rhaid cael yr arian fel y gallwn gystadlu gyda nifer o glybiau, rhanbarthau a gwledydd y byd rygbi."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol