Aelod Seneddol yn pryderu am 'gau gorsafoedd heddlu'

  • Cyhoeddwyd
Wayne David ASFfynhonnell y llun, BBC elvis
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr David iddo glywed am y toriadau gan aelod blaenllaw o Heddlu Gwent

Mae Aelod Seneddol wedi rhybuddio mai dim ond un orsaf heddlu llawn-amser fyddai gan Heddlu Gwent yn y dyfodol, o dan gynlluniau arfaethedig.

Dywed yr aelod Llafur dros Gaerffili, Wayne Davies, iddo glywed fod yr awdurdod heddlu'n ystyried toriadau y mae o'n eu disgrifio fel rhai "trychinebus" i'r cyhoedd.

Mae Mr David yn awgrymu y byddai 'na orsaf lawn-amser yng Nghasnewydd, tra bod gorsafoedd Ystrad Mynach a Glyn Ebwy yn agored rhwng 9am a 5pm, ac eraill ond yn rhan-amser.

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn gorfod gwneud gwerth £32 miliwn o arbedion ac maen nhw'n pwysleisio fod y ffordd y mae'r cyhoedd yn cysylltu gyda nhw ynglŷn â throseddau wedi newid.

Dywedodd Mr David wrth BBC Cymru: "Rwyf wedi cael gwybod yn gyfrinachol gan un o brif swyddogion Heddlu Gwent fod yr awdurdod yn ystyried toriadau eang na welwyd erioed o'r blaen.

"Bydd y toriadau'n effeithio fwya' ar orsafoedd heddlu ar draws yr ardal, ac mae'r toriadau mor eang rwy'n credu y gallan nhw fod yn drychinebus.

Hen adeiladau

"Mae'n rhaid i ni gynnal plismona rheng flaen cyn belled â phosib ond hefyd cynnal y cyswllt rhwng yr heddlu a chymunedau lleol.

"Petai ni'n parhau â rhaglen doriadau sy'n cael ei hawgrymu yma a mwy neu lai cau pob gorsaf heddlu yng Ngwent, rwy'n credu y byddai'r hollt rhwng yr heddlu a'r gymuned leol mor ddofn y byddai'n hynod niweidiol a'r unig rai fyddai'n elwa, fyddai troseddwyr."

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn edrych ar ailstrwythuro'r ffordd yr oedd pobl yn cael mynediad i wasanaethau a bod ymchwil yn dangos bod 'na ffyrdd mwy effeithlon na buddsoddi "cyllid cyfyngedig ar hen adeiladau heddlu, sydd weithiau wedi'u lleoli yn wael ar gyfer y gymuned".

"Mae'r cyhoedd wedi dweud wrthym eu bod eisiau gweld mwy o blismyn yn y gymuned, sy'n defnyddio technoleg newydd i gysylltu â'r cyhoedd a gwrando ar eu hanghenion," meddai'r llu.

"Mae cymdeithas yn newid yn y ffordd mae hi'n cyfathrebu ac yn rhoi gwybod am droseddau, a bydd Heddlu Gwent yn ymateb yn briodol yn y modd maen nhw'n datblygu a darparu gwasanaethau.

"Gall y cyhoedd fod yn hyderus nad oes unrhyw fygythiad i'n hymateb 24/7, nag i'n presenoldeb yn y cymunedau."

Cau gorsafoedd

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trafod y cynlluniau gyda'r undebau ac nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud eto.

Yn ôl Ian Johnston, cyn-Brif Uwch Arolygydd Heddlu Gwent, mae'r cynllun yn swnio'n "hynod debygol".

"Bydd mwy a mwy o orsafoedd heddlu, nid dim ond yng Ngwent ond trwy Gymru'n cau - dyna'r gwir amdani," ychwanegodd.

"Mae 'na lai a llai o bobl yn mynd i orsafoedd heddlu ar droed ac mae Heddlu Gwent wedi cynnal ymchwil sy'n awgrymu fod nifer y bobl sy'n mynd i'r gorsafoedd wedi gostwng yn sylweddol.

"Mae pobl yn defnyddio'u ffonau neu'r rhyngrwyd erbyn hyn."

Yn ddiweddar mynnodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr heddlu, Nick Herbert, fod Llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yr heddlu.

Meddai: "Rydym yn credu fod y toriadau hyn mewn gwariant, sy'n hanfodol i fynd i'r afael â'r ddyled, yn gynaliadwy.

"Mae 'na nifer o arbedion sylweddol y gellid eu gwneud o ran plismona trwy weithio'n fwy effeithiol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol