Gavin Henson: Diwedd y daith?
- Cyhoeddwyd

Gavin Henson a Warren Gatland yn dathlu Camp Lawn Cymru yn 2008
Mae cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gwyn Jones, yn credu bod Gavin Henson wedi "chwalu" ei obeithion o adfer ei yrfa oherwydd digwyddiad ar awyren dros y Sul.
Mae Henson wedi ymddiheuro am ei ymddygiad "anfaddeuol" ar ôl yfed gormod o alcohol wrth i dîm rygbi'r Gleision deithio'n ôl i Gymru yn dilyn gêm yn erbyn Glasgow nos Wener.
Cafodd Henson ei wahardd rhag chwarae i'r clwb dros dro ac mae cwmni hedfan Flybe yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Bydd bwrdd y Gleision yn penderfynu ffawd y chwaraewr 30 oedd sydd wedi ennill 34 cap dros Gymru ddydd Llun.
'Alcohol'
Arwyddodd Henson gytundeb wyth mis gyda'r Gleision ym mis Hydref y llynedd ac, yn ôl Gwyn Jones, mae'n debygol na fydd y canolwr yn chwarae i'r clwb y tymor nesaf.
Dywedodd Jones wrth raglen Scrum V BBC Cymru: "Enillodd Henson ddwy Gamp Lawn a chwaraeodd i'r Llewod ac eto, rydyn ni'n teimlo nad ydy e wedi cyflawni ei lawn botensial, yn enwedig yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
"Nid yw'n sioc ein bod yn siarad am Henson mewn cyd-destun nad yw'n ymwneud â rygbi.
"Mae'n amlwg nad yw'n gallu delio ag alcohol, mae e'n berson gwahanol.
"Mae pawb wedi rhoi cyfleoedd iddo, gan gynnwys Warren Gatland a'r Gleision.
"Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud â'r cyfuniad o fethu delio â bod yn chwaraewr ymylol neu am nad oes ganddo'r un ymrwymiad i'r gêm.
"Pwy fydd eisiau arwyddo dyn 30 oed nad yw wedi chwarae'n dda ers pedair blynedd?"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011