Penderfyniad y Gleision dan y lach
- Cyhoeddwyd

Tom Shanklin a Gavin Henson yn 2009
Mae Gleision Caerdydd wedi cael eu beirniadu am eu penderfyniad i ddiswyddo Gavin Henson am gamymddwyn ar awyren o Glasgow.
Cafodd cytundeb y chwaraewr 30 oed, sydd wedi ennill 34 cap dros Gymru, ei ddiddymu ddydd Llun, gyda'r clwb yn dweud eu bod yn "rhoi neges glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei dderbyn".
Ond dywedodd chwaraewr y Gleision, Casey Laulala ar wefan Twitter: "Doedd o ddim yn ddrwg o gwbl. Roedd 'na ormod o lawer wedi'i wneud o'r cyfan. Mae'r clwb yn amaturaidd yn delio â phethau."
Disgrifiodd cyn brif hyfforddwr y Gweilch Lyn Jones y penderfyniad fel un "anfaddeuol".
'Dealladwy'
Ond mae sylwebydd rygbi'r BBC Jonathan Davies wedi dweud ei fod yn "drist ond yn ddealladwy" ac mai bai Henson oedd y cyfan.
Dywedodd cyn ganolwr Cymru Tom Shanklin y gallai ystyriaethau ariannol fod wedi chwarae rhan yn y penderfyniad, ond roedd cyn faswr Caerdydd, Cymru a'r Llewod Gareth Davies, yn gobeithio nad hynny oedd yr achos.
"Rwy'n siwr y byddai 'na ddyfalu bod 'na gysylltiad gydag arbed costau," meddai Mr Davies.
"Byddwn yn hoffi meddwl nad hynny oedd e. Byddwn yn hoffi meddwl fod y Gleision wedi gwneud eu penderfyniad ar sail ffeithiau'r penwythnos yn unig.
"Rwy'n gobeithio ei fod yn ymwneud â gosod esiampl - beth fyddai'r clwb, ac yn wir unrhyw glwb neu dîm cenedlaethol, yn ei obeithio gan chwaraewyr proffesiynol."
'Anfaddeuol'
Yn ôl prif hyfforddwr clwb Cymry Llundain, Lyn Jones, fe ddylai tîm rheoli'r Gleision ateb cwestiynau ynglŷn â'r digwyddiadau arweiniodd at Henson yn camymddwyn o dan ddylanwad alcohol ar yr awyren adre' wedi'r golled yn Glasgow yn y Pro12 nos Wener.
Dywedodd Jones: "Mae'n rhaid iddyn nhw edrych ar bwy oedd yn gyfrifol am y daith 'na i Glasgow, mae'n rhaid iddyn nhw edrych ar reolwr y tîm. Pam oedd [Henson] yn yfed yn y bore? Pam nad oedd [rheolwr y tîm] wedi rhoi stop ar hynny?
"Dyw Henson ddim yn ddieuog - mae wedi gwneud camgymeriad, fel pob chwaraewr arall. Fel wnaeth Danny Care, ond ydy e wedi cael ei ddiswyddo gan y Quins? Mae 'na gannoedd o enghreifftiau fel hyn.
"Mae trin Gavin fel hyn yn anfaddeuol."
'Arbed costau?'
Yn ôl Tom Shanklin, roedd ymddygiad Henson yn rhoi cyfle i'r Gleision dorri ar gostau ar adeg ariannol anodd i rygbi Cymru.
Meddai: "Os ydych chi'n edrych ar y darlun o fewn rygbi Cymru ar y funud, mae timau'n edrych i arbed arian.
"Mae chwaraewyr clybiau ar gyflogau mawrion. Os nad ydyn nhw'n chwarae, maen nhw'n bendant yn mynd i edrych ar gael gwared arnynt cyn diwedd y flwyddyn.
"Dim ond gwastraff arian ydy e, ynde?
"Os yw chwaraewyr ar gyflog uchel rydych chi eisiau iddyn nhw fod yn chwarae er mwyn cael gwerth am arian pob wythnos.
"Ac mae'n siwr nad oedden nhw'n cael hynny gyda Gavin."
'Cyfrifoldeb'
Ychwanegodd Shanklin: "Rwy'n credu y gall e'n dal chwarae rygbi ond mae lan i'r clybiau a ydyn nhw am fentro. Ond mae'n enw mawr sy'n denu tyrfaoedd."
Mae cyn faswr Cymru, Gareth Davies, yn gweld ei hun fel un o "gefnogwyr" Henson, ond mae'n dweud bod safiad y Gleision yn "ddealladwy".
Dywedodd: "Y peth cynta' yw, mae'n drist iawn gan fod Gleision Caerdydd wedi rhoi siawns [i Henson] ac mae wedi rhyw fath o wastraffu cyfle arall.
"Fel maen nhw'n ddweud, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i'w cefnogwyr a'u noddwyr - ac mae'n ymddangos ei fod e wedi gwastraffu cyfle arall."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011