Cynlluniau rygbi yn pryderu Roger Lewis

  • Cyhoeddwyd
Roger LewisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roger Lewis yn poeni am yr adroddiad

Mae pennaeth Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, "braidd yn betrusgar" am y sail ariannol ar gyfer rhanbarth rygbi newydd yng nghymoedd y de.

Mewn cais at Undeb Rygbi Cymru mae Valleys Rugby (VR) gyda chefnogaeth AS Pontypridd Owen Smith, wedi dweud y gallan nhw sefydlu tîm gyda chyllideb chwarae flynyddol o £1.6 miliwn.

Ar ddechrau'r tymor nesa', mae rhanbarthau'r Gweilch, Gleision, Dreigiau a Scarlets wedi gosod cyllideb o £3.5 miliwn ar gyfer cyflogau.

Dywedodd Mr Lewis ei fod "braidd yn betrusgar am gynnwys adroddiad VR".

Mae ymgyrchwyr Valleys Rugby yn gobeithio y bydd y mwyafrif o gemau cartref y rhanbarth yn cael eu cynnal yn Heol Sardis, cartref clwb rygbi Pontypridd.

Mae angen gwneud gwaith ar y stadiwm.

Rhyfelwyr

Pan sefydlwyd sustem ranbarthau rygbi Cymru yn 2003, roedd gan yr ardal dîm - y Rhyfelwyr Celtaidd.

Roedd y pumed rhanbarth yn gyfuniad o glybiau Pen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd, ac yn chwarae eu gemau cartref ar gaeau'r ddau glwb.

Ymhlith cyn chwaraewyr y Rhyfelwyr Celtaidd roedd dau aelod o dîm Camp Lawn Cymru yn 2012, sef Ryan Jones a Gethin Jenkins.

Yn dilyn trafferthion ariannol, fe werthwyd y rhanbarth i Undeb Rygbi Cymru, cyn i'r Undeb ddiddymu'r rhanbarth yn gyfan gwbl yn 2004.

Colli chwaraewyr

Daw'r cais mewn cyfnod pan mae'r pedwar rhanbarth yn paratoi ar gyfer dyfodol heb nifer o'r sêr rhyngwladol.

Mae'r gleision yn colli 11 o chwaraewyr rhyngwladol, gan gynnwys Gethin Jenkins, Casey Laulala a Ben Blair.

Bydd Luke Charteris ac Aled Brew yn gadael Y Dreigiau ac mae Nikki Walker a Tommy Bowe yn gadael y Gweilch wrth i Shane Williams ymddeol.

Fe gadarnhawyd hefyd bod Stephen Jones, Ben Morgan a Sean Lamont yn gadael y Scarlets.

"Dwi wedi derbyn yr adroddiad ac wedi ymateb i'r bobl sydd wedi darparu'r adroddiad," meddai Mr Lewis.

"Rydym yn mynd i'w astudio yn fanwl ac rydym yn gobeithio y bydd y bobl yn rhoi cyfweliad i ni.

"Ond mae'n rhaid dweud fy mod i braidd yn betrusgar gyda'r cynnwys.

"Mae 'na un ffigwr sy'n sefyll allan, sef cyllideb o £1.6 miliwn ar gyfer chwaraewyr.

"Mae'r rhanbarthau yn ei chael yn anodd cadw chwaraewyr gyda chyllideb o £3.5 miliwn."

Dywedodd bod y Scarlets wedi chwarae yn erbyn Brive yr wythnos diwethaf sydd â chyllideb chwaraewyr o 14 miliwn ewro (tua £11.4 miliwn).

"Pa mor ymarferol felly yw'r adroddiad yma?

"Dwi'n meddwl fy mod wedi rhoi rhyw syniad i chi o'r cynnwys," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol