Gwasanaeth e-bost Gmail yn Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Person yn teipio ar gyfrifiadurFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Google yw’r cwmni diweddaraf i ddatblygu meddalwedd am ddim yn Gymraeg.

Mae modd cael meddalwedd e-bost Google - Gmail - yn y Gymraeg o hyn allan.

Mae'r feddalwedd chwilio wedi bod ar gael i siaradwyr Cymraeg ers tro.

Cafodd Gmail ei gyfieithu gan ddefnyddio Google Translate a'i reoli ar y cyd â'r cwmni o Califfornia gan Fwrdd yr Iaith a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Mae pob eitem yn y ddewislen a'r blychau deialog yn Gymraeg.

Dywedodd Google: "Mae Google yn canolbwyntio ar sut y gall ein hoffer helpu i ddiogelu ac adfywio ieithoedd lleiafrifol er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol, yn arbennig i'r genhedlaeth ifanc.

"Rydym wrth ein bodd felly fod Gmail ar gael yn Gymraeg - y ddiweddaraf o 57 iaith - gan ein bod yn gwybod bod galw am dechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt."

'Esiampl i gwmnïau eraill'

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: "Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o'n bywydau bob dydd - byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y gwaith ac yn y cartref - ac mae'n bwysig felly fod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio'r iaith ar-lein.

"Mae'r ffaith bod Google, cwmni rhyngwladol ac enw cyfarwydd ar draws y byd, wedi penderfynu cynnig Gmail yn Gymraeg yn dangos y pwys y mae cwmnïau rhyngwladol yn ei roi ar ddatblygu technoleg yn Gymraeg, ac mae'n gosod esiampl i gwmnïau eraill, yn ogystal ag i ddefnyddwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol