Clefyd: 330 llawdriniaeth y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch wedi ei lansio i leihau'r cannoedd o lawdriniaethau i dorri aelodau'r rhai sydd â diabetes.
Mae'n rhan o waith Diabetes UK Cymru wrth nodi Wythnos Diabetes 2012.
Mae rhai sydd â diabetes 20 gwaith yn fwy tebygol o golli aelod isaf o'u corff, ac mae o leiaf 330 llawdriniaeth o'r fath yn digwydd yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ôl yr elusen, mae modd osgoi o leiaf 80% o'r llawdriniaethau hyn i dorri aelod i ffwrdd. Pan fydd aelod wedi'i dorri, nid yw 80% o'r cleifion yn goroesi am fwy na phum mlynedd.
Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Mercher yng Nghaerdydd mewn digwyddiad 'Diwrnod Carwch Eich Traed' yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas, Plas Windsor.
Ymwybodol o'r peryglon
Nod yr elusen yw lleihau'r llawdriniaethau hyn i dorri aelodau sy'n gysylltiedig â diabetes yn sylweddol. Maen nhw eisiau i'r rhai sydd â diabetes fod yn fwy ymwybodol o'r peryglon a gofalu am eu traed - ac maen nhw'n galw am well gofal traed i rai sydd â diabetes gan eu meddygon teulu ac yn yr ysbyty.
Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Mae'r ymchwil ddiweddaraf yn dangos bod rhwng 78% a 84% o'r rhai sydd â diabetes yn cael archwiliadau traed blynyddol.
"Ond mae'r data sydd gennym yn awgrymu mai darniog yw'r darlun ledled Cymru - mewn rhai meddygfeydd teulu mae bron pob un sydd â diabetes yn cael archwiliad traed blynyddol, mewn rhai eraill mae llai na'u hanner nhw yn ei gael.
"Mae achos pryder mewn ysbytai hefyd. Mae gan bron i hanner y rhai sy'n cael eu derbyn gyda diabetes gymhlethdodau clefyd traed ac eto 10% yn unig sy'n cael archwiliad traed cyn pen 24 awr ar ôl cael eu derbyn.
"Mae diabetes ar o leiaf 19% o'r holl gleifion mewn ysbytai, eto darniog yw'r hyfforddiant y mae nyrsys cyffredinol yn ei gael mewn gofal traed sylfaenol, os ydyn nhw'n ei gael o gwbl."
Taflen
Y ffactor pwysicaf wrth rwystro'r difrod i'r nerfau a'r cylchrediad sy'n arwain at dorri aelod yw rheolaeth ddiabetig dda - cadw lefelau'r siwgr gwaed yn gyson.
Gall y rhai sydd â diabetes gadw eu traed yn iach hefyd drwy wneud pethau syml fel cael archwiliadau traed cyson, gwisgo esgidiau a sliperi da ac osgoi niwed a heintiau.
Mae'r elusen wedi rhyddhau Deg Cam i Draed Iach, taflen sydd ar gael drwy gysylltu â'r elusen ar 029 2066 8276.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2012
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2011