Rygbi: Dreigiau 'yn gynaliadwy'

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr rhanbarth rygbi Dreigiau Casnewydd/Gwent, Chris Brown, wedi dweud ei fod yn obeithiol am ddyfodol y rhanbarth yn dilyn amheuon am ddyled y clwb.

Roedd archwilydd y rhanbarth wedi rhybuddio fod ganddo bryderon wedi i gyfrifon diweddaraf y Dreigiau ddangos iddyn nhw wneud colled o dros £272,000 y llynedd.

Mae'r rhanbarth yn eiddo yn rhannol i Undeb Rygbi Cymru.

Ar ôl iddo edrych ar y cyfrifon, roedd archwilydd annibynnol wedi dweud eu bod yn dangos "ansicrwydd allai daflu amheuaeth ddifrifol am allu'r cwmni i barhau fel busnes hyfyw".

'Cynaliadwy'

Er na fydd y clwb yn cyhoeddi datganiad ffurfiol tan yn ddiweddarach ddydd Llun, roedd y prif weithredwr yn hapus i gael ei ddyfynnu'n bersonol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Luke Charteris wedi gadael y Dreigiau cyn i'r uchafswm cyflog ddod i rym er mwyn symud i Ffrainc

"Rwyf wedi adolygu ein cyllid, ac rwy'n hapus bod y rhanbarth yn iach," meddai Mr Brown.

"Cafodd y ddyled ei chreu oherwydd y gost o adeiladu eisteddle newydd, ac mae cynlluniau mewn lle i dalu'r ddyled honno.

"Mae gennym werthiant tocynnau tymor, nawdd a refeniw lletygarwch i gyd yn eu lle. Mae'r rhanbarth yn gynaliadwy."

Ar Orffennaf 1, fe ddaeth system newydd o uchafswm cyflog i rym i'r Dreigiau, a gweddill y rhanbarthau rygbi yng Nghymru, fel ymgais i gadw costau i lawr.

Ni fydd unrhyw ranbarth yn cael gwario mwy na £3.5 miliwn y flwyddyn ar gyflogau chwaraeon.

Mae ambell un wedi dweud bod angen gofalu nad yw chwaraewyr gorau Cymru yn gadael i chwarae eu rygbi i glybiau sy'n gallu talu mwy. Eisoes mae nifer wedi gadael i chwarae i glybiau yn Ffrainc y tymor nesaf, gyda Mike Phillips, James Hook, Gethin Jenkins a Luke Charteris yn eu plith.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru:

"Mae'r undeb yng nghanol trafodaethau gyda'r rhanbarth ar ystod eang o faterion, felly ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ar y mater hwn ar hyn o bryd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol