Y chweched diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Dydd Iau roedd pump o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ac fe fu tri ohonyn nhw'n ymgeisio am fedalau fel rhan o dîm rhwyfo Prydain.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.
RHWYFO:
Roedd Chris Bartley yn aelod o dîm pedwarawd ysgafn Prydain enillodd y Fedal Arian. Dyma fedal gyntaf y Cymry yn y Gemau. De Affrica enillodd y ras gydag amser o 6 munud 02:84. Roedd Prydain yn ail agos iawn gydag amser o 6 munud 03:09 eiliad a Denmarc, oedd wedi arwain y ras o'r dechrau, yn drydydd mewn amser o 6 munud a 03:16 eiliad.
Enillodd y pedwar eu rownd gynderfynol a'r disgwyl oedd y byddai'r ras rhwng Prydain ac Awstralia ond roedd Awstralia wedi cael rownd gynderfynol siomedig. Yn y rownd gynderfynol Prydain oedd yr unig griw o'r 12 i orffen gydag amser o dan chwe munud - 5 munud a 59.68 eiliad ond roedd Y Swistir (6:00.97) a'r Iseldiroedd (6:01.37) yn dynn ar eu sodlau.
Methodd Victoria Thornley ag ennill medal wrth gystadlu fel rhan o dîm rhwyfo merched (8) Prydain yn y rownd derfynol. Llwyddodd y tîm i orffen yn bedwerydd yn un o'r rasys ail gyfle mewn amser o 6 munud 21.58 eiliad yn gynharach yn yr wythnos. Ond pumed oedden nhw yn y ras derfynol gydag amser o 6 munud 18.77 eiliad. America oedd y ffefrynnau a nhw enillodd y Fedal Aur gydag amser o 6 munud 10:59 eiliad. Daeth Canada yn ail (6:12:06) a'r Iseldiroedd yn drydydd (6:13:12)
Llwyddodd Tom James gyda phedwarawd heb lywiwr Prydain i ennill y rownd gynderfynol yn erbyn Awstralia mewn amser o 5 munud 58:26 eiliad. Llwyddodd y criw i ennill eu ras rhagbrawf fore Llun gydag amser o 5 munud 50:27 eiliad. Roedd y tîm ac Awstralia yn arafach hefyd nac yn y rhagbrofion. Fe ddaeth Awstralia yn ail yn y ras gynderfynol mewn amser o 5 munud 59:23 eiliad. Y disgwyl yw mai Awstralia fydd eu prif wrthwynebwyr yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn.
SEICLO:
Roedd Geraint Thomas ar ei feic yn y Velodrome yn y ras ymlid tîm, ac yn y rownd rhagbrofol, fe dorrodd y tîm y record byd. Cwblhaodd y tîm y cwrs 4000m mewn amser o 3munud 52.499 eiliad gan guro'r record o 3:53.295 a gafodd Prydain yn Awstralia ym mis Ebrill. Bydd y tîm yn cystadlu yn y rownd gyntaf go iawn brynhawn Gwener.
HOCI:
Chwaraeodd Sarah Thomas yn nhîm Hoci Prydain yn erbyn Gwlad Belg yn Arena Riverbank. Hi yw'r unig Gymraes yn y tîm ac fe guron nhw Gwlad Belg 3-0 nos Fercher. Sgoriodd Thomas un o bedair gôl tîm hoci Prydain yn eu buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Japan yn eu gêm gyntaf. Cafodd y tîm fuddugoliaeth hefyd yn erbyn De Korea 5-3.
Bydd gêm nesaf tîm merched Prydain yn erbyn Tseina ac fe fydd gêm gyfartal yn ddigon iddyn nhw gyrraedd y rownd gynderfynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2012