Trafodaethau newydd i geisio osgoi streic

  • Cyhoeddwyd
Ail Groesfan Hafren [Llun: Terry Winter]Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.

Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal i geisio osgoi streic gan staff sy'n casglu tollau ar ddwy bont Hafren.

Ym mis Gorffennaf pleidleisiodd tua 70 o staff o blaid gweithredu'n ddiwydiannol oherwydd ffrae am newid shifftiau.

Mae aelodau o undeb Unite yn bygwth gweithio i reol o'r wythnos nesaf â chynnal streic 24 awr ar ddechrau Gŵyl y Banc ar ddiwedd Awst.

Mae cwmni Croesfannau Afon Hafren wedi dweud bod rhaid cadw'r pontydd ar agor hyd yn oed yn ystod streic.

Dywedodd Unite y bydden nhw'n "trafod o ddifri' i ennill cytundeb teg" gyda'r cwmni pan fydd y trafodaethau'n ailddechrau dydd Iau.

"Cynigiodd y cwmni newidiadau i shifftiau ond doedd dim cydbwysedd rhwng gwaith ac ansawdd bywyd y tu allan i'r gwaith," meddai swyddog rhanbarthol yr undeb, Jeff Woods:

"Rydym yn gobeithio datrys yr anghydfod cyn i'r gweithredu diwydiannol ddechrau ond mae'n rhaid i'r rheolwyr fod yn fwy hyblyg."

Nid oedd unrhyw un o gwmni Croesfannau Afon Hafren ar gael i wneud sylw ar y mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol