Pobl ifanc mewn perygl o 'wynebu anghydraddoldeb'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi lleisio pryder unwaith eto am y modd mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant.
Dywed Keith Towler hefyd fod plant a phobl ifanc mewn perygl o wynebu anghydraddoldeb trwy eu hoes wrth i ragor o deuluoedd gael eu gwthio i dlodi.
Daw ei sylwadau wrth iddo lansio ei Strategaeth Tlodi Plant gyntaf i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi.
Mae'n dadlau fod nifer y plant mewn tlodi wedi cynyddu ers 2006-7
Dywed Llywodraeth Cymru fod ei ffocws ar bawb sy'n byw mewn tlodi, ond fod blaenoriaeth yn cael ei roi i anghenion plant.
Canolbwyntio
Dywed y Comisiynydd ei fod yn parhau yn bryderus am "benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnwys camau gweithredu ar gyfer trechu tlodi plant mewn cynllun gweithredu sy'n ymdrin â phlant ac oedolion".
Mae ei strategaeth yn tynnu sylw at yr angen i ganolbwyntio ar blant yn ogystal â'u teuluoedd, gan "gydnabod bod ganddyn nhw eu hawliau eu hunain yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn".
"Mae hi mor bwysig nad ydym yn anghofio am blant a phobl ifanc wrth i ni feddwl am drechu tlodi," meddai.
"Ni ddylai gallu plentyn i gyrraedd ei hawliau a gwireddu'i botensial ddibynnu ar incwm ei deulu.
Dywedodd Mr Towler fod tlodi plant wedi effeithio rhwng chwarter ac un ym mhob tri o blant a phobl ifanc ers iddo ddod i'r swydd.
Croesawu'r gwaith
Fe wnaeth arolwg diweddar gan Achub y Plant awgrymu fod 53% o blant Cymru sy'n byw mewn cartrefi gydag incwm isel yn poeni bod eu rhieni yn ei chael hi'n anodd talu am fwyd a dillad.
Ond fe wnaeth arolwg arall ym mis Mehefin ddod i'r casgliad fod nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi gostwng i'w lefel isaf ers canol y 1990au.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu gwaith swyddfa'r Comisiynydd wrth gyfrannu at y dasg o fynd i'r afael a thlodi plant
"Ond rydym newydd dderbyn yr adroddiad a heb gael amser i ystyried y manylion yn llawn.
"Byddwn yn ymateb yn llawn maes o law."
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i waredu tlodi plant erbyn 2020, ond mae'r Comisiynydd Plant wedi codi amheuon ynglŷn â'r gallu i gwrdd â'r targed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mai 2012