'Penderfynol o ddod o hyd i April'

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April ei gweld ddiwethaf tu allan i'w chartref ar Hydref 1

Mae Maer Machynlleth wedi dweud bod y dref yn dal yn "benderfynol" o ddod o hyd i April Jones, fis union ar ôl i'r ferch 5 oed o'r dref ddiflannu.

Dywedodd Gareth Jones fod nifer o bobl wedi newid eu hymdrechion i godi arian ar gyfer Cronfa April sydd bellach wedi codi mwy na £35,000.

Yn y cyfamser cafodd Neuadd y Dref yng Nghaerfyrddin ei goleuo'n binc am 7:00 pm nos Lun.

Mae pinc, sef hoff liw April, wedi bod yn lliw amlwg wrth i bobl chwilio am April Jones ers iddi fynd ar goll ar Hydref 1.

Cloc Machynlleth

Cafodd April ei gweld ddiwethaf yn mynd i mewn i gerbyd y noson honno.

Roedd hi'n chwarae tu allan i'w chartref ar stad Bryn-y-Gog tua 7pm.

Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi'i gyhuddo o'i chipio a'i llofruddio ac o gael gwared â'i chorff gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dywed Cyngor Sir Gâr fod myfyriwr o Aberystwyth sy'n astudio yn y dref wedi gofyn iddynt oleuo'r neuadd yn binc.

Yn ôl y cyngor cafodd y cyhoedd gwahoddiad i ymgasglu y tu allan i Neuadd y Dref am 7:00 pm nos Lun ac i wisgo rhywbeth â lliw pinc os oeddent am ddangos eu cefnogaeth.

Cafodd y cloc yng nghanol Machynlleth ei oleuo'n binc nos Lun diwethaf dair wythnos union ar ôl i April ddiflannu.

Gwefannau cymdeithasol

Dywedodd Maer Machynlleth, Gareth Jones: "Rwy'n gwybod fod pobl Machynlleth yn dal yn ymrwymedig i sicrhau bod April yn dod adref.

"Mae nifer o bobl yn ceisio codi arian ar gyfer Cronfa April ac fe fydd y gronfa yn cael ei chofnodi fel elusen restredig gydag ymddiriedolwyr annibynnol yn cael eu penodi maes o law."

Ar gais teulu April Jones cafodd cannoedd o lusernau eu cynnau a balŵns pinc eu gollwng i'r awyr nos Lun Hydref 8 yr union amser y diflannodd hi wythnos ynghynt.

Cafodd llusernau a chanhwyllau eu cynnau hefyd mewn trefi fel Aberystwyth a Thywyn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am ddiflaniad April fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol