Eisteddfod Powys yn talu teyrnged i April Jones

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April Jones ei gweld y tro diwethaf y tu allan i'w chartref ym Machynlleth ar Hydref 1

Mae blodau pinc yn addurno llwyfan un o eisteddfodau mwyaf a hynaf Cymru er parch am ferch 5 oed aeth ar goll bron i fis yn ôl.

Cynhaliwyd Gorymdaith Gorsedd Eisteddfod Powys ym Machynlleth ddydd Sadwrn fel rhan o'r ŵyl ddiwylliannol ddechreuodd yn Y Tabernacl ddydd Gwener,

Roedd trefnwyr yr Eisteddfod wedi ystyried gohirio'r digwyddiad oherwydd diflaniad April.

Ond yn ôl cadeirydd y Pwyllgor Trefnu, John Price, penderfynwyd bwrw ymlaen wedi iddo siarad â'r heddlu a chael gwybod bod rhieni April yn awyddus i'r ŵyl gael ei chynnal.

Gorymdaith

"Rwy'n credu bod hyn yn fonheddig iawn i'r teulu fod am i bethau ddychwelyd i normalrwydd, ac mae'r dref gyfan yn teimlo drostyn nhw hefyd," meddai Mr Price.

"Penderfynon ni ohirio'r orymdaith ond bydd nawr yn mynd o'r eglwys i'r ganolfan hamdden, yn ôl dymuniad rhieni April.

"Fe fydd yr heddlu hefyd yn cymryd rhan yn yr orymdaith er parch i April."

Bydd seremoni Tlws y Dysgwyr a Seremoni'r Cadeirio yn cael eu cynnal yn y Tabernacl brynhawn Sadwrn.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd yr heddlu bod y chwilio am April Jones, yn ardal Machynlleth mor ddwys ag erioed gyda 150 o swyddogion yn rhan o'r ymgyrch.

Mae 17 o dimau yn chwilio ardal 23 milltir sgwâr o gwmpas y dref.

Yn cynorthwyo'r heddlu mae arbenigwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru sydd wedi eu hyfforddi i weithio mewn lleoedd cyfyng a gyda rhaffau.

Y tro diwethaf i April gael ei gweld oedd wrth chwarae gyda ffrindiau ar stad o dai lle'r oedd yn byw, Bryn-y-Gog ar Hydref 1.

Cafodd Mark Bridger, 46 oed, ei gyhuddo o herwgipio a llofruddio April.

Mae o hefyd wedi ei gyhuddo o guddio a chael gwared â'i chorff yn anghyfreithlon gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol