Cyfeirlyfr yn taclo effaith tlodi ar addysg disgyblion

  • Cyhoeddwyd
Mam gyda'i phlentyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu fod plant o gefndiroedd difreintiedig yn colli diddordeb mewn addysg tra yn yr ysgol gynradd

Helpu ysgolion i daclo effaith tlodi ac anghyfartaledd ar blant - dyna nod cyfeirlyfr newydd sy'n cael ei gyhoeddi gan y corff arolygu Estyn.

Yn ôl gwaith ymchwil, mae gormod o blant yng Nghymru sydd ddim yn gwneud cystal â'u cyfoedion oherwydd eu hamgylchiadau - ac yn debygol o fod â llai o ddisgwyliadau a sgiliau o'r herwydd, gan arwain at ddiweithdra neu swyddi sgiliau isel yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn cynnwys canllawiau ac enghreifftiau o arferion da i helpu ysgolion fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu fod plant sy'n dod o gefndiroedd tlawd neu ddifreintiedig yn aml yn poeni fwy am yr ysgol na'u cyd-ddisgyblion, a'u bod yn colli diddordeb mewn addysg yn ifanc iawn.

'Dim ateb hawdd'

Wrth gyhoeddi'r canllawiau ddydd Mawrth, dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn: "Mae gan ysgolion rôl allweddol wrth daclo'r problemau addysgol, cymdeithasol ac emosiynol mae plant difreintiedig yn eu hwynebu wrth gael eu magu yng nghanol tlodi.

"Rydym yn gwybod fod y cysylltiad rhwng anghyfartaledd a thangyflawni addysgol yn gryf. Does dim un eglurhad clir pam fod dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig ddim yn perfformio cystal â'u cyfoedion a does dim ateb hawdd.

"Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod ysgolion - gyda chynlluniau clir, ynghyd ag arweiniad a strategaethau cywir - yn gallu helpu'r disgyblion yma i lwyddo yn yr ysgol trwy ddatblygu a chynnig cefnogaeth academaidd, cymdeithasol ac emosiynol iddynt fel unigolion."

Yn ôl Estyn, mae'r ysgolion gorau wedi strwythuro a chydlynu eu hymdrechion i wella cyflawniad disgyblion sydd dan anfantais, gan gynnwys cyflwyno targedau mesuradwy; gwneud defnydd gwell o ddata i ddadansoddi a phroffwydo perfformiad dysgwyr unigol; sefydlu partneriaethau gydag asiantaethau o'r tu allan i roi'r math cywir o gefnogaeth i ddysgwyr; cynnig hyfforddiant a datblygiad i athrawon fel eu bod yn gallu taclo problemau yn well; a sicrhau bod rhieni yn chwarae rhan fwy amlwg yn y broses.

Tangyflawni

"Mae gan bob plentyn yr hawl i'r un cyfleoedd mewn bywyd fel bod ganddynt i gyd siawns deg o wireddu eu gwir botensial, waeth beth fo'u cefndir," ychwanegodd Ms Keane.

"Rydym angen torri'r cylch o dangyflawni yng Nghymru, ble mae pobl ifanc sy'n cael eu magu mewn tlodi ac wedyn yn dod yn rhieni ifanc eu hunain, a heb gael cyfle i fagu sgiliau fyddai'n eu galluogi i gael gwaith a gwella eu rhagolygon i'r dyfodol."

Esboniodd Ms Keane fod gwaith ymchwil yn awgrymu fod rhai o'r plant hyn yn colli diddordeb a gobaith yn yr ysgol gynradd, yn enwedig bechgyn.

Ond mae'n ychwanegu fod ysgolion yn gallu cyflwyno camau ymarferol i leihau effaith tlodi ar bobl ifanc a sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.

"Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae nifer o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig wedi llwyddo yn wyneb anawsterau ac wedi creu gwir gyfleoedd i ddisgyblion gyflawni'n dda," meddai Ms Keane.

Mae Estyn yn argymell penaethiaid, athrawon, swyddogion addysg cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru i ddarllen yr adroddiad a defnyddio'r casgliadau ac argymhellion i gyflwyno gwelliannau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol