Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru yn dechrau ar eu gwaith
- Cyhoeddwyd
![Alun Michael, Winston Roddick, Christopher Salmon ac Ian Johnston (o'r chwith gyda'r cloc)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/64197000/jpg/_64197201_com.jpg)
Pedwar Comisiynydd cyntaf Heddlu a Throsedd Cymru
Mae pedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd Cymru yn dechrau ar eu gwaith.
Cafodd 41 o gomisiynwyr eu hethol mewn etholiad ddydd Iau diwethaf yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan y comisiynwyr newydd yr hawl i benodi ac i ddiswyddo prif gwnstabl, i osod cyllideb yr heddlu ac i osod strategaeth a blaenoriaethau ar gyfer y llu.
Er pryderon mai dim ond tua 15% o etholwyr Cymru wnaeth bleidleisio cafodd dau ymgeisydd annibynnol, un Ceidwadwr ac un Llafur eu dewis i gynrychioli'r pedwar llu yng Nghymru.
Fe ddisgrifiwyd yr etholiadau fel y newid mwya' i blismona mewn 50 mlynedd.
Y Ceidwadwr Christopher Salmon ac etholwyr Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys wrth i'r cyn-AS Llafur Alun Michael, gael ei ddewis yn Gomisiynydd Heddlu De Cymru.
Penodwyd y cyn cyn-heddwas Ian Johnston yn Gomisiynydd yng Ngwent ac yn y gogledd y bargyfreithiwr Winston Roddick gafodd ei ethol.
Mae'r pedwar wedi eu hethol tan 2016.
Cychwyn swyddogol
Pwysleisiodd Llywodraeth San Steffan nad ydi'r comisiynwyr yna i redeg y lluoedd ond yn hytrach i'w dwyn i gyfri.
Mae'r comisiynwyr wedi tyngu llw a dydd Iau mae'r gwaith yn cychwyn.
Maen nhw'n cymryd drosodd cyfrifoldeb yr awdurdodau heddlu lleol oedd yn cynnwys cynghorwyr ac aelodau etholedig.
Rhodri Llywelyn yn holi Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
Wrth gael ei holi ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru ddydd Iau addawodd Mr Roddick y bydd mwy o blismyn ar strydoedd y gogledd.
"Mae 'na brinder arian wrth gwrs, does dim dwywaith am hynny.
"Ond y peth pwysica' yw sicrhau bod 'na ddigon o heddweision ar y stryd fel eu bod yn gallu ymdopi gyda'r troseddau sy'n cymryd lle.
"Dydan ni ddim yn gwario pob ceiniog ar hyn o bryd ar y drefn cyfiawnder troseddol..."
Pan ofynnwyd a ydi o'n rhoi sicrwydd felly bydd 'na fwy o heddweision ar y stryd ei ateb oedd, "ydw yn bendant".
"Dyna yw fy addewid."
Yng nghyfarfod olaf awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Polin bod y llu o dan "bwysau cynyddol" oherwydd nifer o ddigwyddiadau mawr yn ddiweddar.
'Lleihau troseddau'
Dywedodd bod swyddogion yn gweithio ar bedwar achos mawr ar hyn o bryd gan gynnwys llofruddiaeth y milfeddyg Catherine Gowing a llofruddiaeth pump o bobl mewn tân yn eu cartref ym Mhrestatyn.
Rhodri Llywelyn fu'n holi Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cyrmu
Dywedodd Alun Michael mai ei flaenoriaeth ydi cael cefnogaeth y cyhoedd "i dorri'n ôl ar dor cyfraith".
"Mae pobl eisiau gwybod bod pethau yn digwydd yn lleol, yn taclo pethau fel achosion gwrthgymdeithasol.
"Y sialens i mi fydd gweithio gyda'r prif gwnstabl a sicrhau ein bod yn parhau ar y llwybr cywir i leihau nifer y troseddau."
Yng nghyfarfod olaf Awdurdod Heddlu Dyfed Powys ddydd Mawrth dywedodd Mr Salmon y dylai'r llu fod yn falch o'u gwaith a'u bod yn un o'r lluoedd gorau yng Nghymru a Lloegr gyda'r record troseddu isa'.
"Er hynny, allwn ni ddim bod yn hunanfodlon a dwi'n gwybod mai hanner y stori ydi ystadegau.
"Dwi'n ymroddedig i gynnal ac adeiladu ar y record lwyddiannus yma o ran gwasanaethau a pherfformiad ar gyfer ein holl gymunedau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru.
Wedi'r etholiad dywedodd Mr Johnston y byddai ar gael i "ofyn cwestiynau caled i Heddlu Gwent a'i dwyn i gyfri ar y gwasanaethau y maen nhw'n ei gynnig."
Yn y cyfamser mae'r Comisiwn Etholiadol yn ymchwilio i'r nifer isel o bleidleiswyr.