Ocsiwn April yn codi dros £4,000
- Cyhoeddwyd

Mae'r teulu wedi cyhoeddi llun newydd o April gyda'i mam Coral
Mae ocsiwn i godi arian i gronfa'r ferch fach bump oed sydd ar goll, April Jones, wedi codi dros £4,000 diolch i roddion gan Catherine Zeta Jones a Bonnie Tyler.
Cododd par o esgidiau Catherine Zeta Jones £410 yn y digwyddiad ym Machynlleth nos Wener.
Bydd yr arian yn mynd i Gronfa April sydd eisoes wedi cyrraedd bron £50,000.
Aeth April ar goll o stryd ger ei chartref yn y dref union ddeufis yn ôl. Cafodd ei gweld am y tro diwethaf ar Hydref 1.
Dywedodd Karen Evans, un o drefnwyr yr ocsiwn elusennol, bod y digwyddiad wedi denu diddordeb ar draws Cymru a thu hwnt, gydag esgidiau Zeta Jones yn mynd i brynwr o'r Rhyl yn Sir Ddinbych.
Fe gafodd siaced arbennig gan y gantores Bonie Tyler hefyd ei gwerthu.

Prynwyd esgidiau Catherine Zeta Jones am £410 gan berson o'r Rhyl, Sir Ddinbych
"Roedd hi'n wych gweld pawb yn dod at ei gilydd yn y dref am y noson," medd Ms Evans.
"Rydym yn hapus iawn gyda fel yr aeth pethau. Rydym wedi codi digon o arian i Gronfa April, a dyna oedd pwrpas y cyfan."
Nos Wener hefyd cafodd seren binc arbennig ei goleuo yn y dref i gofio April.
Mae'r golau yn rhan o oleuadau Nadolig Machynlleth, ond yn wahanol i'r goleuadau eraill, ni fydd seren April yn cael ei diffodd dros nos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2012