Goleuo seren binc i gofio April

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Aeth April Jones ar goll ar Hydref 1

Bydd seren binc yn cael ei goleuo ym Machynlleth i gofio am April Jones, y ferch fach bump oed sydd ar goll.

Cafodd April ei gweld am y tro olaf ar Hydref 1 ger ei chartref ym Machynlleth, ac mae dyn wedi cael ei gyhuddo o'r chipio a'i llofruddio.

Bydd seren yn cael ei goleuo am 6pm ddydd Gwener fel rhan o oleuadau Nadolig y dref. Fe fydd y seren, sy'n mesur metr sgwâr, yn aros ymlaen dros nos er y bydd gweddill y goleuadau'n cael eu diffodd.

Mae tref Machynlleth wedi cael ei gorchuddio gan y lliw pinc ers i fam April gyhoeddi apêl ar bobl i wisgo rhubanau pinc i gefnogi'r chwilio am y ferch fach.

Ocsiwn

Dywedodd llefarydd ar ran clwb Rotary Machynlleth, sy'n gyfrifol am y goleuadau: "Roedd gosod seren binc i gofio April yn rhywbeth yr oeddem ni gyd am ei wneud.

"Dydyn ni heb drafod y peth gyda'i rieni, ond roeddem yn meddwl y byddai seren binc yn ffordd o gofio April dros y Nadolig."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bydd esgidiau Catherine Zeta Jones yn cael eu gwerthu i godi arian i Gronfa April

Yn y cyfamser, bydd sawl eitem yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn elusen i godi arian i'r gronfa sefydlwyd yn enw April.

Ymhlith yr eitemau fydd ar werth bydd par o esgidiau a roddwyd gan yr actores Catherine Zeta Jones, a siaced denim gan y gantores Bonnie Tyler.

Hyd yma mae'r rhoddion i gronfa April wedi cyrraedd bron £50,000.

Cafodd y gronfa ei sefydlu gan Gyngor Tref Machynlleth ym mis Hydref. Ar y pryd dywedodd y cyngor nad oedd yn glir sut y byddai'r arian yn cael ei wario, ond mai mater i deulu April oedd penderfynu ar hynny.

Ymdrech enfawr

Dywedodd ficer y dref, y Parchedig Kath Roberts - a gafodd ei phenodi'n ddiweddar yn un o dri ymddiriedolwr y gronfa: "Tan i'r gronfa gael ei chofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau, fedra i ddim dweud sut y bydd yr arian yn cael ei wario.

"Mae'n annhebyg o ddod yn elusen cyn y Nadolig, ond unwaith y byddwn wedi rhoi trefn ar bopeth, fe allwn ni eistedd i lawr a thrafod y dyfodol."

Er gwaethaf ymdrech enfawr gan yr heddlu, timau achub arbenigol a channoedd o wirfoddolwyr, does neb wedi gweld April ers iddi fynd ar goll.

Mae Mark Bridger, 47 oed, yn wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth, cipio plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.