Teulu April: 'Diolchgar dros ben'

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April ei gweld ddiwethaf tu allan i'w chartref ar Hydref 1

Mae teulu April Jones wedi diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth, union bedair wythnos wedi i'r ferch bum mlwydd oed ddiflannu ym Machynlleth.

Fe ddywedodd ei rhieni, Coral a Paul Jones, eu bod nhw wedi eu syfrdanu gyda'r adnoddau sydd wedi eu defnyddio er mwyn ceisio dod o hyd i'w merch fach.

Dywedodd y ddau: "Mae pedair wythnos wedi mynd heibio ers i April gael ei chymryd oddi wrthym, ac fel teulu, yn amlwg rydym yn torri'n calonnau ac mae ein bywydau ar chwâl.

"Ers y 1af o Hydref, rydym wedi derbyn negeseuon, blodau a chardiau o bob rhan o'r byd, nid yn unig Prydain, ac mae'n gysur i ni wybod bod pobl yn meddwl am April ac amdanom ni.

"Diolch i chi am fod mor garedig".

'Cariad a chymorth'

Maent wedi derbyn diweddariadau cyson am yr ymchwiliad a'r broses o chwilio am April, meddai'r ddau, "ac rydym yn ddiolchgar dros ben fod cymaint o dimoedd chwilio dal allan yno, pob dydd, yn chwilio am ein merch brydferth.

"Rydym wedi derbyn cefnogaeth gan ein teulu, ein ffrindiau a'n cymdogion dros y pedair wythnos diwethaf a'u cariad a'u cymorth nhw sydd wedi'n helpu ni i fyw pob dydd.

"Bu'r orymdaith drwy'r dref i'r eglwys a chloc y dref yn cael ei oleuo'n binc, sef hoff liw April, o gysur mawr i ni. Gyda chymorth ein swyddogion cyswllt teulu, swyddogion heddlu lleol a ffrindiau, bu modd i ni gymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad".

Cafodd y cloc yng nghanol Machynlleth ei oleuo'n binc nos Lun diwethaf dair wythnos union ar ôl i April ddiflannu.

Hydref 1

Cafodd April ei gweld ddiwethaf yn mynd i mewn i gerbyd ar Hydref 1.

Roedd hi'n chwarae tu allan i'w chartref ar stad Bryn-y-Gog tua 7pm.

Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi'i gyhuddo o'i chipio a'i llofruddio ac o gael gwared â'i chorff gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am ddiflaniad April fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol