Tywysog Cymru yn ymweld â de orllewin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Tywysog Cymru yn ymweld â gwaith dur Tata, marchnad Abertawe, man geni Dylan Thomas a gwasanaeth Plygain yn ystod ei daith undydd i dde Cymru ddydd Gwener.
Fore Gwener, dadorchuddiodd y Tywysog blac i nodi bod gwaith adeiladu ffwrnais rhif pedwar wedi'i gwblhau yng nghwaith Tata.
Fe wnaeth hefyd gyfarfod â'r gweithlu ac aelodau o gymuned Port Talbot yn ystod ei ymweliad.
Cafodd marchnad dan-do hanesyddol Abertawe hefyd sêl bendith frenhinol fore Gwener.
Dylan Thomas
Cyfarfu'r Tywysog â pherchnogion stondinau yn y farchnad yn ystod taith a ddaeth i ben trwy ddadorchuddio plac dwyieithog i goffáu ei ymweliad.
Fe wnaeth plant Ysgol Pen-y-Bryn ganu nifer o emynau Cymraeg trwy gydol yr ymweliad.
Mae gan Farchnad Abertawe hanes hir a lliwgar a ddechreuodd bron i 1,000 o flynyddoedd yn ôl pan roedd pobl leol yn ymgasglu yng nghysgod Castell Abertawe i werthu eu nwyddau a chnydau a'u hanifeiliaid.
Agorwyd adeilad presennol Marchnad Abertawe yn 1961.
Cyn diwedd y dydd bydd y Tywysog yn ymweld â man geni'r bardd Dylan Thomas yn rhif 5 Cwmdonkin Drive yn ardal yr Uplands, Abertawe.
Caiff ei dywys o gwmpas y tŷ ac chwrdd ag aelodau o deulu'r bardd a'r rhai sy'n ymwneud â threfnu dathliadau canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas yn 2014.
Gwasanaeth Plygain
Saif y tŷ uwchlaw Bae Abertawe ac mae ei berchenogion presennol wedi'i adnewyddu i'w gyflwr Edwardaidd er mwyn adlewyrchu sut yr edrychai pan oedd Dylan Thomas yn byw yno.
Y Tywysog yw Noddwr Brenhinol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac fe fydd yn ymweld â champws y brifysgol yng Nghaerfyrddin i fynychu gwasanaeth Plygain traddodiadol yng Nghapel y Brifysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2012