Cofio apêl emosiynol mam April Jones
- Cyhoeddwyd
Roedd 2012 yn flwyddyn arall pan hawliodd Cymru'r penawdau newyddion rhyngwladol unwaith eto.
Roedd stori April Jones yn un wnaeth gyflwyno enw tref Machynlleth i'r byd am y rhesymau anghywir.
Fel gohebydd yn y gorllewin, cefais i fy ngalw i fyny i Aberystwyth i gynorthwyo gyda'r gohebu ar ddiflaniad y ferch fach bump oed.
Fel tad i ddwy ferch ifanc, roedd hi'n anodd peidio uniaethu â gwewyr y teulu.
Fe fydd apêl emosiynol Coral Jones mewn cynhadledd newyddion yn Aberystwyth yn anodd ei hanghofio.
Roedd hi hefyd yn brofiad i ohebu o'r ganolfan hamdden, a gweld y ffermwyr yn ymgynnull yno yn paratoi i fynd allan i chwilio am April. Roedd nifer wedi ymlâdd yn llwyr ar ôl bod allan am oriau di-ri yn y gwynt a'r glaw.
Heb os, hon yw'r stori fwyaf i mi weithio arni fel gohebydd, ac mae'r chwilio, fel mae pawb yn gwybod am April fach, yn parhau.
Dyledion coleg
Roedd trafferthion Coleg Llanymddyfri hefyd yn flaenllaw ym mhenawdau yma yn y Gorllewin.
Bu bron i'r hwch fynd drwy'r siop yn sgil dyledion o £4 miliwn, ac roedd 160 o flynyddoedd o hanes dan fygythiad.
Erbyn hyn, mae yna dîm newydd o ymddiriedolwyr wrth y llyw, ac mae'r warden, Guy Aisling, yn gobeithio y bydd sefydlu cwmni newydd i redeg yr ysgol yn ddechrau pennod newydd yn ei hanes.
Fe fydd dau achos o lofruddiaeth yn aros yn y cof yn 2012.
Yn mis Mawrth, fe garcharwyd John Mason am oes am boenydio a llofruddio Angelika Dries-Jenkins yn ei chartref yn Arberth.
Roedd Angelika yn fam i dri a hefyd yn fam-gu. Mae'n debyg taw chwilio am arian oedd cymhelliad John Mason dros ei lladd.
Ar ddechrau'r flwyddyn, fe welwyd digwyddiad erchyll ym mhentref Llanllwni.
Tyrbinau gwynt
Fe gafodd y bensiynwraig Irene Lawless, ei llofruddio a'i threisio yn ei chartref ar stad Bryn Dulais.
Cafodd dyn o Gaint, Darren Jackson ei garcharu am o leiaf 28 mlynedd am y troseddau. Yn ystod y dedfrydu, fe glywodd Llys y Goron Abertawe rai o'r manylion erchyll.
Teg dweud y cafodd dynes heddychlon a thawel farwolaeth boenus ac arteithiol.
Roedd pentref bach Llanllwni yn y penawdau hefyd yn sgil buddugoliaeth y pentrefwyr yn erbyn cynlluniau i godi 21 o dyrbinau ar dir comin.
Fe bleidleisiodd aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr yn erbyn cais cwmni RES, er bod Mynydd Llanllwni yn gorwedd o fewn ardal sydd wedi ei phennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ffermydd gwynt.
Wrth i ni ffarwelio â 2012, fe ddaeth ystadegau'r cyfrifiad i godi braw ar garedigion y Gymraeg.
Dirywiad iaith
Mae'r ffigurau yma yn y Gorllewin wedi peri pryder a siom i nifer sydd wedi ymgyrchu i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yma.
Yn fwyaf pryderus efallai, yw dirywiad yr iaith mewn hen gadarnleoedd fel Dyffryn Aman.
Am ba bynnag reswm, 'dyw'r Gymraeg ddim yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Colli tir y mae'r iaith yn wyneb y mewnlifiad a'r all-lifiad o'r sir.
Does yna ddim amheuaeth 'chwaith bod gan y cyd-destun economaidd ran i'w chwarae yn ei thrafferthion.
Fe fydd yr ystadegau ar gyfer cymunedau unigol yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Ionawr.
'Sbardun efallai yn 2013 am weithredu o'r newydd i geisio achub y Gymraeg yn yr hyn a adwaenid unwaith fel "Y Fro Gymraeg."