Yn euog o lofruddio pensiynwraig yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
John William MasonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd y rheithgor lun teledu cylch cyfyng o'r diffynnydd ddydd Mawrth

Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd dyn 55 oed yn euog o guro pensiynwraig i farwolaeth yn ei chartref yn Arberth, Sir Benfro.

Cafodd John Mason o bentref Llandysilio ei garcharu am oes am lofruddiaeth Angelika Dries-Jenkins.

Bydd yn rhaid iddo dreulio 30 o flynyddoedd dan glo cyn cael ei ystyried ar gyfer parôl.

Dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams fod y llofruddiaeth yn greulon a dideimlad.

"Fe wnaethoch chi hyn er mwyn dwyn ei harian, heb feddwl ddwywaith," meddai.

"Yn fwy na thebyg byddwch yn treulio gweddill eich oes yn y carchar."

Bu'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad am lai na dwy awr.

Cafodd Ms Dries-Jenkins ei llofruddio ar Fehefin 1 2011, ychydig o ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 67 oed.

Clywodd y llys fod Mason wedi ei gorfodi i roi rhif ei cherdyn banc iddo cyn ei churo i farwolaeth a dwyn ei char.

Roedd hi wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.

Ei merch, Eleanor, ddaeth o hyd i'r corff ar Fehefin 3.

Cerdyn banc

Clywodd y rheithgor fod Mason wedi gyrru ei char cyn defnyddio ei cherdyn banc.

Yn Hendy-gwyn ar Daf ceisiodd yn aflwyddiannus godi £500 a £300 o dwll yn y wal.

Ychydig yn ddiweddarach llwyddodd i godi ychydig yn fwy na £200 cyn gyrru i Hwlffordd lle cododd £50 arall.

Cafwyd hyd i siwmper y llofrudd ym min sbwriel maes parcio.

DNA

Yn ôl tystiolaeth fforensig, roedd DNA Mason a Mrs Dries-Jenkins ar y siwmper waedlyd.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angelika Dries-Jenkins yn byw ar ei phen ei hun

Roedd lluniau o Mason ar gamerâu cylch cyfyng yn Arberth yn gwisgo siwmper debyg.

Roedd Mason wedi gwadu'r cyhuddiad a dweud mai cyfres o "gyd-ddigwyddiadau" oedd y rheswm ei fod yn bresennol yn Hendy-gwyn a'r Daf a Hwlffordd yr adeg y cafodd yr arian ei godi.

Honnodd hefyd fod y siwmper gafodd ei gweld ar y camerâu cylch cyfyng dal yn ei gartref yn Llandysilio.

Ar ôl y dyfarniad datgelwyd fod gan Mason record droseddol a'i fod yn ddyn treisgar.

Yn dilyn yr achos, dywedodd teulu Mrs Dries-Jenkins mewn datganiad: "Fe fyddai'n anghywir i ddweud ein bod yn hapus gyda'r canlyniad heddiw oherwydd ni allai ddim byd newid y ffaith boenus bod ein mam wedi ei chymryd oddi arnom ni.

"Ond mae yna elfen o ryddhad - ni all geiriau gyfleu - fod y rheithgor wedi cael John Mason yn euog o frawychu a llofruddio ein man cyn dwyn oddi arni yn ystod y dyddiau canlynol.

"Rydym yn teimlo rhyddhad ac rydym yn ddiolchgar, yn gyntaf er mwyn ein mam oedd yn fenyw fwyn, heddychol...yn ail, er ein mwyn ni a phawb oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu, ac er mwyn cymunedau Arberth a'r cyffiniau."