Tywydd: 'Byddwch yn wyliadwrus'
- Cyhoeddwyd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus wrth i'r rhagolygon ddangos y bydd mwy o law trwm yn debygol o effeithio rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos.
Disgwylir i law trwm effeithio'r de-orllewin, y canolbarth a'r gogledd-orllewin yn ystod nos Wener a bore Sadwrn ac yn ystod nos Sul a bore Llun.
Ar hyn o bryd mae un Rhybudd Llifogydd mewn grym ar gyfer Afon Rhydeg, Dinbych-y-Pysgod ac mae naw Rhybudd- Byddwch yn barod, dolen allanol mewn grym yng Nghymru.
Yn ôl yr Asiantaeth mae'n debygol y byddan nhw'n cyhoeddi mwy o rybuddion llifogydd o ganlyniad i'r glaw trwm sy'n cael ei ragweld ar gyfer y penwythnos.
Mae Cymru wedi dioddef glaw trwm dros y Nadolig.
Cafodd pobl mewn 13 o gartrefi yn Ystalyfera, Cwm Tawe eu symud i ddiogelwch wedi tirlithriad nos Sadwrn Rhagfyr 22 pan wnaeth filoedd o dunelli o bridd lithro yn ardal Pant-teg yn sgil y glaw.
Mae'r asiantaeth yn cynghori pobl sy'n teithio i fod yn wyliadwrus gan gynllunio eu taith yn ofalus oherwydd y gallai glaw trwm arwain at drafferthion wrth deithio.
Rhif ffôn Llinell Llifogydd Asiantaeth yr Amgylchedd yw 0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012