2012: Yn wlyb ond nid y wlypaf

  • Cyhoeddwyd
Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Gorlifodd Afon Elwy yn Nhachwedd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud mai 2012 oedd y drydedd flwyddyn wlypaf yng Nghymru ers pan ddechreuodd cofnodion gael eu cadw yn 1910.

Y llynedd oedd yr ail flwyddyn wlypa' yn y Deyrnas Unedig a'r un fwyaf gwlyb yn Lloegr.

Effeithiodd llifogydd sydyn ar gannoedd o dai a busnesau yng Ngheredigion ym Mehefin a phan orlifodd afonydd yn Nhachwedd effeithiodd hyn ar gannoedd yn Llanelwy a Rhuthun.

Y flwyddyn wlypa' ar gyfer holl wledydd y Deyrnas Unedig oedd 2000.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod 2012 wedi dechrau'n gymharol sych ond bod y ffigurau uchaf am law'n disgyn yn Ebrill a Mehefin.

Cwympodd mwy na mis o law ar Fehefin 8 a 9 yng ngogledd Ceredigion ac effeithiodd hyn ar fwy na 1,000 o bobol.

Roedd difrod yn Nhal-y-bont, Dol-y-bont, Penrhyncoch, Llandre a rhannau o Aberystwyth.

£1.3bn

Yn 2012 cofnodwyd bod 1330.7 milimetr o law yn y DU, 6.6 milimetr yn is na'r hyn ddisgynnodd yn 2000.

Ym mis Tachwedd effeithiodd llifogydd ar 400 o dai yn Llanelwy a mwy na 100 o dai ar Stad Glasdir yn Rhuthun.

Mae undeb yr NFU yn dweud bod tywydd garw'r llynedd wedi costio £1.3 biliwn i'r diwydiant amaeth.

Mae'r costau yn cynnwys difrod i gnydau.

Bu'n rhaid i ffermwyr brynu bwyd ychwanegol ar gyfer anifeiliaid oherwydd bod y tywydd garw yn eu rhwystro rhag pori.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol