Dadlau am newid ffiniau seneddol
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau Llywodraeth San Steffan i gwtogi ar nifer yr Aelodau Seneddol Cymreig wedi cael ergyd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Ddydd Llun fe bleidleisiodd aelodau o 300 i 231 i ohirio newidiadau i ffiniau seneddol tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesa'.
Dyma'r tro cynta' i weinidogion y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio yn erbyn ei gilydd ers ffurfio'r glymblaid.
Yn ôl gweinidogion, fe ddylai Cymru gael 30 yn hytrach na 40 Aelod Seneddol yn San Steffan fel rhan o gynllun i leihau maint Tŷ'r Cyffredin o 650 i 600 a sicrhau fod Aelodau Seneddol yn cynrychioli tua'r un faint o etholwyr.
Ond mae'r gwrthbleidiau yn dadlau fod y newidiadau'n annheg ac y bydd y Ceidwadwyr yn elwa yn fwy nag unrhyw blaid arall.
Bydd y mesur nawr yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin.
Hyd yn oed petaen nhw'n cefnogi'r mesur, mae'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi dweud y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn pleidleisio yn erbyn y ffiniau newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Petai'r ffiniau seneddol yn cael eu diwygio, mae Llywodraeth y DU wedi argymell newid etholaethau'r Cynulliad i gydfynd â'r map gwleidyddol newydd - fyddai'n golygu 30 o Aelodau Cynulliad yn hytrach na'r 20 sy'n cael eu dewis o restrau rhanbarthol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2012
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2011