Ymgynghori ar gynllun i wella gofal i bobl sydd â diabetes
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfle i leisio barn ar gynllun gan Lywodraeth Cymru i ddelio gyda phroblem gynyddol diabetes yng Nghymru.
Bydd 'Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Diabetes' yn gofyn am farn ar y gofal y mae dioddefwyr yn ei dderbyn yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru bod taclo'r clefyd yn flaenoriaeth gan fod tua 7% o oedolion Cymru yn cael eu trin am y clefyd.
Mae elusen Diabetes UK wedi dweud bod y cyflwr yn costio £500 miliwn y flwyddyn i'r Gwasanaeth Iechyd.
Fis diwethaf, fe rybuddiodd yr elusen bod y cyflwr yn broblem sydd ar gynnydd yng Nghymru.
Dywedodd yr elusen bod 35,000 yn fwy o bobl yn diodde' o'r cyflwr dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i 160,000.
'Lleihau risg'
Cafodd fframwaith cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2003.
Dywedodd cyfarwyddwr Cymru i Diabetes UK, Dai Williams, bod y fframwaith i fod i gael ei gyflwyno yn 2013, ond nad oedd bellach yn debyg o ddod i rym tan 2016.
Nod y fframwaith yw lleihau'r achosion o ddiabetes Math 2, a gwella safonau gofal i bobl sy'n diodde' o Fath 1 a Math 2 o ddiabetes.
Mae'r cynllun sy'n destun yr ymgynghoriad newydd yn cadarnhau hynny, ac yn diweddaru cynlluniau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Nod clir Llywodraeth Cymru yw i bobl Cymru gael pob cyfle i leihau'r risg o ddatblygu diabetes drwy annog ffordd iach o fyw.
"Ond pan fo angen, rhaid iddyn nhw gael gwasanaethau diabetes o'r safon uchaf lle bynnag y maen nhw'n byw, a sut bynnag y bydd y gwasanaethau'n cael eu darparu - yn y gymuned, gofal cyntaf neu mewn ysbytai."
Erbyn 2025, dywed y rhagolygon y bydd dros 250,000 o bobl yn diodde' oherwydd diabetes, a chredir bod 66,000 o bobl ddim yn gwybod eu bod yn diodde'.
Er gwaetha'r pryderon, dywed yr elusen bod 70% o oedolion sydd â Math 1 a 43% o'r rhai sydd â Math 2 ddim yn cael profion syml, megis profion glwcos yn y gwaed.
Yn y ddogfen ar gyfer yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru yn datgan eu disgwyliadau gan y gwasanaeth iechyd, dulliau gweithredu'r gwasanaeth iechyd a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynllun wedi ei lunio er mwyn "cefnogi a diweddaru ymdrechion y gwasanaeth iechyd i atal a thrin diabetes, ac i daclo goblygiadau'r cyflwr ar draws Cymru".
Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2012
- Cyhoeddwyd14 Awst 2012
- Cyhoeddwyd6 Awst 2012
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012