Camddefnyddio inswlin i golli pwysau

  • Cyhoeddwyd
Monitor Clefyd Siwgr a chwystrelliad
Disgrifiad o’r llun,

Mae dioddefwyr yn camddefnyddio inswlin er mwyn colli pwysau

Dywed elusen clefyd siwgr yng Nghymru fod 'na bryder cynyddol am nifer y dioddefwyr sydd ddim yn cymryd eu meddyginiaeth er mwyn colli pwysau.

Mae'r term "diabwlimia" yn cyfeirio at gleifion â chlefyd siwgr Math 1 sy'n rhoi'r gorau i ddefnyddio inswlin er mwyn teneuo.

Gallai tua un ymhob tri o ferched o dan 30 oed fod yn camddefnyddio inswlin, yn ôl Diabetes UK.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai addysgu cleifion oedd y gyfrinach.

Yn ôl Jacqueline Allen, oedd yn diodde' o diabulimia ac sydd wedi sefydlu elusen i helpu dioddefwyr, dyw'r cyflwr ddim yn wahanol i broblemau bwyta eraill fel anorecsia neu fwlimia.

"Roedd gen i ofn patholegol o roi pwysau 'mlaen ac obsesiwn llwyr gyda cholli pwysau," meddai wrth BBC Cymru.

"Yr unig beth newidiodd oedd y ffordd yr oeddwn i'n colli pwysau.

"Fe sefydlais i'r elusen ar gyfer pobl â chlefyd siwgr Math 1 a phroblemau bwyta," ychwanegodd.

'Problemau iechyd'

Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, ei bod hi'n ofynnol ers 2003 fod pawb sy'n diodde' o glefyd siwgr Math 1 yn cael cyfarwyddyd sut i reoli'r cyflwr.

Ond dywedodd mai dim ond 2% o gleifion yng Nghymru sy'n cael yr wybodaeth angenrheidiol.

"Os nad ydych chi'n deall eich clefyd siwgr ... nid dim ond ei reoli'n iawn sy'n bwysig, mae angen deall goblygiadau camreoli a dyna un o'r problemau," ychwanegodd.

Difrifol iawn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y gallai clefyd siwgr sydd ddim yn cael ei reoli'n iawn arwain at broblemau iechyd difrifol iawn.

"Y newydd da yw drwy addysgu pobl sydd â'r cyflwr mae ganddyn nhw'r wybodaeth a'r hyder i'w reoli ac mae ansawdd eu bwydau'n newid yn fawr," meddai.

"Mae'n siomedig fod cyn lleied o bobl ifanc yng Nghymru'n defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael am eu clefyd siwgr.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglen addysgu a bydd hyn yn cael ei hatgyfnerthu drwy ein Cynllun Gweithredu Clefyd Siwgr fydd yn rhan o ymgynghoriad yn fuan."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol