Cig ceffyl mewn byrgers cwmni yn Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ym Mhowys sy'n cyflenwi bwyd wedi atal peth o'u cynnyrch wedi i brofion ddangos fod o leiaf 1% o gig ceffyl wedi ei ddarganfod yn rhai o'u bwydydd.
Mae'r Burger Manufacturing Company (BMC) yn Llanelwedd yn dweud eu bod yn y broses o gysylltu â'u cwsmeriaid.
Cafodd y profion eu cynnal gan Gyngor Powys yn dilyn cais gan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae saith o awdurdodau lleol Cymru wedi derbyn byrgyrs gan y cwmni, gyda rhai wedi ei halogi gan gig ceffyl.
Dywedodd y cwmni dosbarthu bwyd Holdsworth Foods eu bod wedi tynnu'r cynnyrch yn ôl o gynghorau Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Powys a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae Sir Fynwy wedi dweud na allan nhw fod yn siwr a gafodd y cynnyrch ei weini fel cinio ysgol ai peidio.
Mae profion ychwanegol yn cael eu cynnal i geisio sefydlu faint yn union o gig ceffyl sydd yn eu cynnyrch ac i weld a allai hefyd gynnwys olion o feddyginiaeth filfeddygol, bute.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod yr awdurdod lleol wedi cymryd samplau o gynnyrch dau gynhyrchydd cig yn y sir.
Ychwanegodd: "Gallwn gadarnhau bod tair sampl o gynnyrch cig eidion (byrgyrs) wedi eu profi'n bositif o ran cig ceffyl a chig oen."
Dywedodd nad oedd y cyngor sir yn gwybod faint o gig ceffyl a chig oen oedd yn y byrgyrs hyd yn hyn ond eu bod yn aros am ganlyniadau profion eraill.
"Fel cam ymlaen llaw ymatebodd y cyngor yn gyflym gan adolygu bwydlenni bwyd i sicrhau nad oes cynnyrch o'r fath yn cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth arlwyo ar gyfer ysgolion," meddai.
"Mae ymchwiliadau ar y cyd gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Heddlu Dyfed-Powys yn parhau."
Beio cyflenwyr
Cwmni Sparks Catering Butchers sy'n berchen BMC, busnes teuluol sydd wedi'i leoli yn Enfield, Swydd Hertford.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr y cwmni, John Sparks: "Rydym wedi cael gymaint o siom ag unrhywun gan y darganfyddiad hwn. Mae un cyflenwr wedi ein siomi'n llwyr.
"Daeth y cyfan gan Farmbox Meats. Nid cig eidion oedd y cyfan, mae rhywbeth arall wedi cael ei roi yn y bocsys.
"Fe gafodd cymysgedd o gig eidion a chig ceffyl ei roi yn y bocs. Mae'r bai arnyn nhw a ni'n cael ein dal yn y canol.
"Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd mewn dros 60 mlynedd yn y busnes. Rydym yn fusnes teuluol yn cyflogi 80 o bobl, ac fe allai'r swyddi yna i gyd fod yn y fantol nawr."
Profion
Daeth cadarnhad o sylwadau Mr Sparks yn y Senedd wrth i Ddirprwy Weinidog Amaeth Cymru, Alun Davies, ateb cwestiwn yn y Cynulliad brynhawn Iau gan yr aelod Ceidwadol Russell George.
"Roedd y cwmni yr ydych yn cyfeirio ato yn gleient i Farmbox wrth gwrs, ac o ganlyniad maen nhw, fel pob cwsmer arall i Farmbox, wedi cael eu hysbysu bod angen gwirio a phrofi eu cig ac mae'r broses yna yn mynd rhagddo.
"Rwyf wedi bod mewn cysylltiad dyddiol gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd dros y cyfnod yma.....ac maen nhw wedi dilyn holl gwsmeriaid Farmbox er mwyn profi'r holl gig a gafodd ei gyflenwi i'r cwsmeriaid.
"Dydw i ddim yn credu ei bod yn briodol i mi wneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd."
Fe geisiodd BBC Cymru gael ymateb gan cwmni Farmbox, ond heb lwyddiant hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2013