Pwll Gleision: Ffrae ynghylch cofeb genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell yn y drychinebFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David Powell yn y drychineb

Mae cynlluniau ar gyfer Cofeb Genedlaethol Lofaol Cymru wedi cael eu beirniadu am beidio cynnwys trychineb pwll glo'r Gleision am nad yw'n cael ei gyfri fel trychineb swyddogol.

Bydd y gofeb yn cael ei dadorchuddio yn Senghennydd ger Caerffili ar Hydref 14 eleni, can mlynedd i'r diwrnod ar ôl i drychineb glofaol gwaethaf yn hanes Prydain ddigwydd yno pan laddwyd 439 o weithwyr, yn ddynion a bechgyn, ym 1913.

Bu farw pedwar glöwr - David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62 oed, Philip Hill, 44 oed a Garry Jenkins, 39 oed - ar ôl i ddŵr lifo i mewn i bwll glo'r Gleision yng Ngodre'r Graig ger Pontardawe ar Fedi 15, 2011.

Ond ni fydd y ddamwain yn cael ei chyfri am fod trefnwyr yn dweud bod deddfwriaeth yn nodi bod trychineb swyddogol yn cynnwys marwolaeth pump neu fwy o bobl.

Deddf Mwynfeydd a Chwareli 1954

Bydd Cofeb Genedlaethol Lofaol Cymru yn coffáu tua 200 o drychinebau glofaol Cymreig ac fe fydd 156 plac yn cael eu gosod yn y llawr - un am bob pwll glo lle bu achos wnaeth arwain at farwolaeth pump neu fwy o bobl.

Dywed trefnwyr y gofeb, Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, er na fyddai damwain pwll glo'r Gleision yn cael ei chynnwys yn benodol, fe fyddai plac arall yn coffáu pob trychineb glofaol Cymreig arall.

Ond yn ôl Maer Pontardawe, Bob Williams, fe ddylai marwolaethau'r pedwar glöwr ym mhwll y Gleision gael eu coffáu gan blac.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd achubwyr yn gweithio bob awr o'r dydd

"Mae'n warthus i ddweud nad yw marwolaeth pedwar o bobl yn drychineb," meddai.

"Dylai enwau'r pedwar gael eu coffáu ar blac."

Yn ôl Deddf Mwynfeydd a Chwareli 1954 mae trychineb yn gorfod cynnwys marwolaeth pump neu fwy o bobl.

Cyfaddawd

Dywedodd Jack Humphreys, cadeirydd Grŵp Treftadaeth Cwm Aber ei fod wedi ysgrifennu at Gyngor Tref Pontardawe i esbonio'r penderfyniad.

"Yn dilyn ein hymchwil fe wnaethon ni ddarganfod bod mwy na 200 o achosion yng Nghymru pan fu farw pump neu fwy o bobl," dywedodd.

Ychwanegodd fod cannoedd o achosion lle'r oedd llai na phump o bobl wedi marw mewn digwyddiadau unigol yng Nghymru ac nad oedd gan y grŵp yr adnoddau i dalu am gofeb ar gyfer pob un ohonynt gan gynnwys achos pwll y Gleision.

Dywedodd Wayne Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y Glowyr yn ne Cymru ei fod am i achos pwll y Gleision gael ei gynnwys oherwydd ei arwyddocâd ond ychwanegodd ei fod yn bosib cyrraedd cyfaddawd.

Ychwanegodd ei fod yn credu bod rhan o gynlluniau ar gyfer Cofeb Genedlaethol Lofaol Cymru yn cynnwys gardd goffa a fyddai'n lleoliad addas ar gyfer gosod plac i goffáu trychineb pwll y Gleision.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol