Frech goch: Ymchwilio i glinig sy'n cynnig brechiad sengl
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio ar ôl i glinig preifat gynnig brechlyn i bobl yn ardal Abertawe dros y penwythnos sy'n eu diogelu rhag y frech goch yn unig.
Yn ôl y Ganolfan Imiwneiddio Plant, maen nhw'n ymateb i'r pryderon sydd gan rieni ynglŷn â'r brechiad MMR sy'n diogelu pobl rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.
Ddydd Mawrth roedd yr Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru wedi codi pryderon am y cwmni dan sylw.
Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Peter Black ei fod yn poeni fod y cwmni o Loegr yn defnyddio eu gwefan i farchnata'r brechlyn sengl, gan dargedu pobl yn ardal Abertawe a de orllewin Cymru yn arbennig.
Gan nad oes trwydded i'r brechlyn sengl yn y DU ar hyn o bryd, dim ond ar bresgripsiwn mae modd ei gael.
Mae'r cwmni yn codi £50 o ffi gofrestru a phresgripsiwn am £110.
Honiadau
Mae'r wefan yn cyfeirio at rif ffôn i drigolion yn yr ardaloedd hynny ac, yn ôl Mr Black, mae'r safle yn cyfeirio at y pryderon am gysylltiad rhwng y brechlyn triphlyg MMR ac awtistiaeth, er bod tystiolaeth erbyn hyn yn gwrthbrofi hynny.
Ar dudalen arall, maent yn honni mai'r brechiad sengl "yw'r unig ffordd ddiogel ar gyfer tawelwch meddwl" a bod y brechiad "yn rhoi gwell amddiffyniad o 97% ar ôl y pigiad cyntaf".
Roedd ymchwiliad gan raglen Week In Week Out BBC Cymru wedi tynnu sylw'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) at y sefyllfa, a dywedon nhw fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu at y ganolfan yn gofyn iddynt gyfiawnhau'r honiadau ar y wefan.
Dywed y cwmni fod eu gwybodaeth wedi ei seilio ar yr hyn mae'r cynhyrchwyr yn ei ddweud am y brechlyn.
Yn ôl llefarydd ar ran y cwmni, Zoe Miller: "Dyw e ddim am fusnes o gwbl. Rydyn ni'n agor mwy, rydym yn mynd i fod yn agor clinig yn Newcastle, felly beth sy'n ein hatal rhag agor yn Abertawe? Fe fydd yn glinig parhaol yno."
Mae'r ganolfan yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal clinig arall yn Abertawe dros y penwythnos.#
'Dim tystiolaeth'
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford: "Mae'n siomedig fod darparwyr sector preifat yn ceisio elwa o'r achosion frech goch trwy ofyn i bobl dalu am frechlyn; brechlyn sydd ddim yn eich hamddiffyn rhag cymaint o afiechydon â'r MMR, sydd am ddim ar y Gwasanaeth Iechyd ac yn ddiogel."
Yn y cyfamser, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio nad yw'r haint yn debygol o gilio a'i bod yn hanfodol i rieni sicrhau bod eu plant yn derbyn y brechiad MMR, sydd ar gael am ddim ar y Gwasanaeth Iechyd.
Ac mae swyddogion yn pwysleisio nad oes unrhyw dystiolaeth bod y brechiad sengl yn fwy diogel na'r brechlyn triphlyg MMR.
Dywedodd Dr Marion Lyons, o Iechyd cyhoeddus Cymru: "Ar ôl datblygu brechlyn sydd yr un mor effeithiol â'r brechiadau sengl, a'i fod nawr ar gael fel un, byddwn i'n hoffi meddwl bod rhieni'n derbyn mai dyna'r peth iawn ar gyfer eu plentyn.
"Mae'n golygu dau bigiad yn lle chwech ac mae'n amddiffyn yn erbyn y tri firws am gyfnod hirach."
Mae 77 o bobl wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty oherwydd y frech goch ers yr achosion cynta' fis Tachwedd y llynedd.
Yn y cyfamser, mae disgwyl canlyniadau'r wythnos hon ar gorff dyn o Abertawe a fu farw yn ei gartre' yr wythnos ddiwetha'.
Roedd Gareth Colfer-Williams, 25, yn diodde' o'r frech goch ar y pryd ond does dim cadarnhad o achos ei farwolaeth eto.
Bydd rhaglen Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC1 Wales am 10.35pm nos Fercher, Ebrill 24.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013