Tywysog yw noddwr Gŵyl Dylan Thomas

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Rebecca Hayes

Tywysog Cymru fydd Noddwr Brenhinol DT100, yr ŵyl sy'n dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Aeth i'r tŷ yn 5 Cwmdonkin Drive yn Uplands, Abertawe, lle cafodd y bardd ei eni yn 1914.

Roedd wyres y bardd, Hannah Ellis, a'r Gweinidog Busnes a Thwristiaeth, Edwina Hart, yn bresennol.

Mae perchnogion presennol wedi ailgreu sut yr oedd pan roedd Dylan Thomas yn byw yno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchnogion presennol y tŷ wedi ailgreu sut yr oedd pan oedd Dylan Thomas yn byw yno

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: "Mae'n bleser gan Dywysog Cymru fod yn Noddwr i Wŷl DT100 ... fydd yn cyflwyno gwaith yr awdur i hyd yn oed fwy o bobl."

Eisoes mae'r canwr opera Bryn Terfel, y cyfansoddwr Karl Jenkins a'r gantores a'r gyfansoddwraig Cerys Matthews, wedi cytuno i fod yn noddwyr.

Fore Gwener dadorchuddiodd y Tywysog blac i nodi bod gwaith adeiladu ffwrnais rhif pedwar wedi dod i ben yng nghwaith Tata ym Mhort Talbot.

Bu hefyd yn cyfarfod â'r gweithwyr a thrigolion lleol.

Plygain

Wedyn cyfarfu â pherchnogion stondinau Marchnad Abertawe a dadorchuddio plac i goffáu ei ymweliad.

Bron 1,000 o flynyddoedd yn ôl roedd pobl leol yn ymgasglu yng nghysgod Castell Abertawe i werthu eu nwyddau a chnydau a'u hanifeiliaid.

Agorwyd adeilad presennol Marchnad Abertawe yn 1961.

Y Tywysog yw Noddwr Brenhinol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yng Nghaerfyrddin mae'n mynd i wasanaeth plygain yng Nghapel y Brifysgol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol