Pryderon am gymorth cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi nifer o bryderon am drefn newydd arfaethedig i'r sustem cymorth cyfreithiol.
Mae'r newidiadau sy'n cael eu crybwyll gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad mae Meri Huws wedi ysgrifennu llythyr diflewyn ar dafod sydd yn rhestru ei phryderon am y ddarpariaeth Gymraeg os fydd y newidiadau'n dod i rym.
Mae BBC Cymru wedi derbyn copi o'r llythyr - fe fydd y cyfnod ymgynghori'n dod i ben ddydd Mawrth, Mehefin 4.
'Egwyddorion sylfaenol'
Rhan fawr o'r newidiadau sy'n cael eu trafod yw cyflwyno cystadleuaeth i'r sustem cymorth cyfreithiol. Byddai cyfreithwyr yn cynnig pris er mwyn darparu gwasanaethau.
Yn ei llythyr, mae Meri Huws yn dweud nad yw'n glir bod y newid yma yn glynu at y ddeddf sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg.
Meddai: "Nid yw'r ddogfen ymgynghorol yma yn ei gwneud yn glir bod glynu at egwyddorion sylfaenol Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys y rhai fydd yn cael eu darparu trwy gystadleuaeth.
"Fe ddylid datgan hyn yn glir.
"Wrth benderfynu gofynion y cytundebau cymorth cyfreithiol sy'n berthnasol i Gymru, fe ddylid chwilio am dystiolaeth o naill ai profiad neu allu i ddarparu yn Gymraeg, neu'r ddau."
Cwynion
Mater arall yn y ddogfen sy'n cael sylw gan y Comisiynydd yw'r sustem i garcharorion wneud cwyn tra yn y carchar.
Mae'r ddogfen yn dweud y dylai gwybodaeth fod ar gael mewn ffurf y gall pob carcharor ddeall gan gynnwys carcharorion sydd ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
Wrth drafod hynny, fe ddywed llythyr Meri Huws:
"Er mwyn sicrhau bod asesiadau a phrosesau nid yn unig yn deg ond yn adlewyrchu gallu ac anghenion yr unigolyn, fe ddylen nhw gael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg pan fo angen."
'Esgeuluso anghenion'
Mae'n gorffen ei llythyr trwy ddiolch am y cyfle i wneud sylwadau yn yr ymgynghoriad, ond cyn hynny mae'n cyfeirio eto at y sustem cymorth cyfreithiol gan ddweud:
"O dan y newidiadau arfaethedig ni fydd gan gleientau'r hawl i ddewis eu darparwyr (cymorth cyfreithiol).
"Er mwyn sicrhau felly nad yw anghenion cleientau Cymraeg yn cael eu hesgeuluso dylid sicrhau bod unrhyw ymgeiswyr llwyddiannus yn medru cynnig gwasanaethau cymorth cyfreithiol yn Gymraeg o'r cychwyn cyntaf, a hynny o safon uchel."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedden nhw'n fodlon gwneud sylw ar unrhyw gyflwyniad unigol i'r ymgynghoriad, ond eu bod yn ymwybodol o bryderon yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.
Pwysleisiodd y llefarydd y byddai'n rhaid i'r rhai sy'n ystyried gwneud cynnig o dan y drefn newydd "gwrdd â gofynion safon cyn i unrhyw asesiad o gost gael ei wneud, ac fe fydd hynny'n cynnwys gallu'r cyflenwr i gwrdd â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg".
Bydd mwy am y pwnc ar raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales am 1:30pm ar ddydd Sul, Mehefin 2.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2013
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012