Prif Weinidog yn galw am wahardd delweddau o gamdrin
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd yn gwneud 'popeth o fewn ei allu' i orfodi darparwyr y we i wahardd delweddau o blant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol.
Gwnaeth ei sylwadau i Aelodau Cynulliad yn dilyn achos llys yr wythnos ddiwethaf, pan gafodd Mark Bridger ei ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio April Jones.
Yn ystod yr achos hwnnw, fe glywodd y llys fod Mark Bridger wedi chwilio'r we am ddelweddau rhywiol o blant yn cael eu cam-drin a'u treisio.
'Taclo'r mater'
Dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn deall pam fod yna ddelweddau na fyddai yn cael ymddangos mewn cylchgronau i'w gweld ar y rhyngrwyd ac y byddai yn taclo'r mater hyd 'eithaf ei allu'.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan yr AC Ceidwadol Russell George, sydd yn cynrychioli etholwyr ym Machynlleth.
Dywedodd y prif weinidog: "Mae yna rai sydd o'r farn na ddylid defnyddio sensoriaeth gyda'r we. Dydw i ddim o'r farn honno pan mae'n dod at, ymysg pethau eraill, pornograffi plant.
"Allai ddim gweld unrhyw fudd mewn gadael i bobl weld pethau yn ddilyffethair a fyddai yn drosedd pe bydden nhw'n cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau. Dw i ddim yn deall hynny."
Mae gwleidyddion, ymgyrchwyr a chynghorwyr eraill hefyd wedi dweud y dylid atal delweddau anweddus o blant rhag ymddangos ar y we.
Yn ôl Google, mae ganddynt bolisi cryf yn erbyn lluniau o blant yn cael eu cam-drin.
Roedd Mr George wedi gofyn i Mr Jones yn y siambr pa drafodaethau yr oedd ef wedi cael gyda phrif weinidog y DU a'r gwledydd eraill sydd wedi eu datganoli ynghylch y mater.
Fe ddywedodd Mr Jones nad oedd wedi cael unrhyw drafodaethau eto ond y byddai'n ysgrifennu at David Cameron er mwyn cael gwybod ei farn ar y pwnc yn dilyn achos Mark Bridger.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013