Mwy wedi mynd i'r sioe eto eleni

  • Cyhoeddwyd
Tywysog Charles
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 72,000 i'r sioe ddydd Mercher pan oedd y Tywysog Charles yno

Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi cadarnhau eu bod wedi torri'r record eleni o ran nifer yr ymwelwyr.

Yn ôl y ffigyrau gafodd eu cyhoeddi fore Gwener roedd 241,781 o bobl wedi ymweld â'r sioe yr wythnos hon.

Roedd hyn dros 600 yn fwy o bobl nac oedd yn y sioe y llynedd pan y daeth 241,099 i Lanelwedd.

Dywed John Davies o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bod y digwyddiad yn llwyddo am nifer o resymau:

"Rydw i yn gobeithio bod ein cenedl ni yn falch o'r hyn rydyn ni wedi ei wireddu yma yn ystod y pedwar diwrnod diwethaf."

Ymwelwyr o dramor

51,000 o bobl ddaeth i'r sioe ar y diwrnod olaf ddydd Iau a cafodd y record ei thorri am y nifer mwyaf o bobl mewn un diwrnod ar y dydd Mercher.

Dyma'r diwrnod pan y daeth Tywysog Cymru a Duges Cernyw i'r sioe ac roeddent ymlith 72,315 o ymwelwyr i'r safle.

Nid dim ond pobl o Gymru sydd yn mynychu meddai'r trefnwyr. Maent yn dweud bod 960 o dramorwyr o 40 o wledydd wedi heidio yno.

Mae'r Sioe Frenhinol yn dathlu 50 mlynedd ers iddi gael ei chynnal yn Llanelwedd eleni ac yn ôl Mr Davies mae'r digwyddiad yn rhoi hwb i'r economi leol.

Ychwanegodd mai sioe i'r bobl yw hon, "heb y bobl fyddai gyda ni ddim sioe."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol