James Collins yn gwadu honiad Coleman

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Collins yn gwadu honiad Chris Coleman yn llwyr

Mae amddiffynnwr Cymru James Collins wedi gwadu honiad rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Collins ei fod wedi gwrthod chwarae i'w wlad.

Roedd Coleman wedi honni bod chwaraewr West Ham wedi gwrthod cyfle i ymuno â'r garfan genedlaethol ar gyfer y golled i Serbia nos Fawrth yn dilyn anaf i Sam Ricketts a gwaharddiad y capten Ashley Williams.

Ond mae Collins wedi tanio dadl drwy ddweud: "Ni wnaeth Chris Coleman na neb arall o Gymdeithas Bêl-droed Cymru gysylltu â mi i ofyn i mi ymuno gyda'r garfan.

"Petawn i wedi cael cais i wneud, fe fyddwn i wedi bod yn fodlon iawn cynrychioli fy ngwlad."

Cafodd cefnwr Abertawe Ben Davies ei ddewis fel partner i Danny Gabbidon yng nghanol yr amddiffyn er nad yw Davies wedi chwarae fel amddiffynnwr canol ar lefel broffesiynol.

Dywedodd Coleman: "Mae'n rhaid i chwarae i Gymru fod yn holl bwysig - os nad yw, peidiwch â dod.

"Eglurodd James i mi nad oedd am ddod i mewn i'r garfan ar ôl cael ei adael allan yn wreiddiol am ei fod yn siomedig yn seicolegol. Nid dyna'r agwedd yr ydw i'n chwilio amdano."

Ond mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd Collins, 30 oed, ei fod am gywiro pethau.

Dywedodd: "Fe gefais sgwrs gyda Chris i gael eglurhad pam fy mod wedi cael fy ngadael allan o'r garfan wreiddiol ar gyfer y gemau yn erbyn Macedonia a Serbia, ond nes i erioed ddweud y byddwn i'n gwrthod chwarae dros Gymru.

"Rwyf falch o fod yn Gymro ac yn fwy balch o wisgo crys coch fy ngwlad, felly mae unrhyw awgrym y byddwn i'n gwrthod chwarae iddyn nhw yn gwbl anghywir."

Mae'r golled i Serbia wedi gadael Cymru ar waelod Grŵp A yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 gyda dwy gêm yn weddill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol