IPCC yn hapus ag ymchwiliad Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn dweud eu bod yn hapus gydag ymchwiliad Heddlu De Cymru i'r modd y deliodd eu swyddogion gydag achos llofruddiaeth Lynette White.
Cafodd ei thrywanu dros 50 o weithiau yn 1988 mewn fflat yn ardal dociau Caerdydd, ble roedd yn gweithio fel putain.
Yn wreiddiol, roedd tri o ddynion wedi'u carcharu ar gam am y drosedd - Stephen Miller, Tony Paris a'r diweddar Yusef Abdullahi - ac fe gawson nhw eu rhyddhau yn 1992.
Dros ddegawd yn ddiweddarach, cafodd y gwir lofrudd ei ddal drwy dechnoleg DNA ac fe blediodd Jeffrey Gafoor yn euog i'r drosedd.
Cafodd wyth o gyn-blismyn Heddlu'r De eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol i'r llofruddiaeth.
Ond daeth yr achos llys mwyaf i ddelio â llygredd o fewn yr heddlu yng ngwledydd Prydain i ben yn Llys y Goron Abertawe yn 2011, wedi i'r llys glywed bod rhai dogfennau wedi'u dinistrio gan blismyn yn ystod eu ymholiadau.
Roedd yr achos wedi costio tua £30m.
Herio penderfyniad
Yr wythnos ddiwetha' cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartre' Theresa May na fyddai yna ymchwiliad cyhoeddus. Mae cyfreithwyr ar ran y tri a garcharwyd yn wreiddiol yn bwriadu herio'r penderfyniad.
Gan fod yr achos gwreiddiol hwnnw wedi'i ddwyn cyn sefydlu'r IPCC, penderfynodd y comisiynydd Tom Davies nad oedd ganddo'r pwerau i gynnal ymchwiliad annibynnol ac felly galwodd ar Heddlu'r De i wneud hynny.
Meddai Mr Davies: "Mae'n 25 mlynedd ers i Lynette gael ei llofruddio ac rwy'n cydnabod fod ei theulu a'i ffrindiau wedi gorfod ymdopi gyda'i marwolaeth a'r datblygiadau niferus yn yr achos hwn.
"Yn y diwedd penderfynais fod yn rhaid i Heddlu De Cymru weithredu'n ymarferol i geisio adfer eu henw da a phenderfynais mai'r ffordd orau i wneud hyn fyddai gofyn iddynt gynnal yr ymchwiliad eu hunain.
"Rwy'n credu fod yr ymchwiliad hwnnw, o dan fy arolygiaeth i, wedi cyflawni'r amcanion.
Ychwanegodd: "Roedd hwn yn ymchwiliad arloesol ac mae llawer o wersi wedi'u dysgu o hyn i helpu ymchwiliadau tebyg yn y dyfodol ac i wella'r modd mae'r heddlu'n gweithredu."
'Cywir a thrwyadl'
Mae Prif Gwnstabl Heddlu'r De Peter Vaughan wedi croesawu sylwadau'r IPCC.
"Roedd yn beth dewr iawn i'm rhagflaenwyr gynnal yr ymchwiliad trwyadl hwn i adeg annodd iawn yn hanes y llu," meddai. "Mae heddiw wedi profi i mi mai dyma oedd y penderfyniad cywir.
"Mae'r IPCC wedi cefnogi'r ymchwiliad, gan ddweud ei fod wedi'i gynnal mewn modd cywir a thrwyadl.
Ychwanegodd Mr Vaughan fod y llu "wedi trawsnewid y ffordd rydym yn delio ag achosion hanesyddol ac wedi ailedrych ar nifer o achosion oedd heb eu datrys", gan gynnwys yr achos yn erbyn llofrudd Miss White, Jeffrey Gafoor.
Yn y cyfamser, mae Heddlu Dyfnaint a Chernyw yn parhau i ymchwilio i honiadau yn erbyn Heddlu'r De a gyflwynwyd gan ddiffynyddion yn yr achos aflwyddiannus i'r llygredd o fewn yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011